Beth ddylech ei wybod am greu strategaeth ar lafar

A wyddech fod 92% o ddefnyddwyr yn credu argymhellion ynghylch brandiau gan eu ffrindiau?

Gall eich sylfaen o gwsmeriaid dyfu’n gyflymach fyth wrth i ffrindiau ddweud wrth eu ffrindiau sydd yn eu tro yn hysbysu eu ffrindiau hwythau. Yn oes y cyfryngau cymdeithasol, pan mae’n haws nag erioed o’r blaen lledaenu’r gair am brofiad da neu ddrwg, mae pŵer marchnata ar lafar yn rhywbeth na allwch fforddio ei anwybyddu.

Efallai y bydd yr hyn mae pobl yn dewis ei ddweud wrth eu ffrindiau yn ymddangos yn rhywbeth na allwch chi ei reoli o gwbl, ond gallech gael eich synnu. Yn yr erthygl hon, rydym yn mynd i ystyried rhai o’r dulliau y gallwch eu defnyddio i annog cwsmeriaid hapus i ranu’r neges am eich cwmni.

Gofynnwch am adolygiadau, sgorau a thystebau

Bydd 62% o ddefnyddwyr yn chwilio am adolygiadau ar-lein  cyn prynu cynnyrch neu ddefnyddio cwmni, a bydd 85% o ddefnyddwyr yn ymddiried mewn adolygiadau ar-lein gymaint ag argymhellion personol. Cyferbynnwch hynny â’r ffaith nad yw 75% ohonom yn credu bod hysbysebion yn dweud y gwir ac mae’n dod yn eithaf amlwg bod adolygiadau cadarnhaol yn ffordd ardderchog o farchnata’ch busnes.

Mae cwsmeriaid yn fwy tebygol o ymddiried yn yr hyn bydd pobl eraill yn ei ddweud am frand yn hytrach na na’r hyn mae’r brand yn ei ddweud amdano’i hun. Darllenwch y canllaw cyflawn i adolygiadau ar-lein i gael rhagor o wybodaeth am harneisio pŵer adolygiadau i dyfu eich busnes.

Er mwyn elwa o adolygiadau da, ni fydd angen i chi dalu am system adolygu soffistigedig. Gall fod mor syml â phan fyddwch yn derbyn e-bost gan gwsmer hapus, does ond angen i chi ofyn am eu caniatâd i ychwanegu eu tysteb at eich gwefan.

Yn yr un modd, gallwch anfon e-bost at gwsmeriaid yn rhagweithiol ar ôl iddynt brynu a gofyn am sgôr, adborth neu adolygiad. Datgelodd un astudiaeth fod 68% o ddefnyddwyr wedi gadael adolygiad ynghylch busnes lleol pan ofynnwyd iddynt, sy’n profi, os ydych chi’n dymuno cael adolygiadau, mae’n rhaid i chi ofyn am hynny.

Cynigwch gymhellion

Efallai bod hynny’n amlwg, ond un ffordd i annog cwsmeriaid i ddweud wrth eu ffrindiau amdanoch yw eu cymell i wneud hynny.

Er enghraifft, yn yr e-bost cadarnhau i gwsmeriaid, gallech gynnig gostyngiad ar archebion yn y dyfodol os ydynt yn clicio ar ddolen i rannu manylion eu pryniant ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn rhoi rheswm i gwmseiriad eu hunain ddychwelyd i brynu rhagor ac yn eu cymell i wneud eich gwaith marchnata drosoch wrth drafod eich brand ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae rhaglen atgyfeirio yn ffordd wych arall o ddarparu cymhellion. Fel arfer, bydd atgyfeiriwr yn cael bonws pan fydd ei ffrind yn cofrestru o ganlyniad uniongyrchol i’w argymhelliad – bydd y ffrind yn cael budd o ryw fath hefyd.

Mae Gousto, sy’n adnabyddus am ei flychau citiau ryseitiau, yn defnyddio rhaglen atgyfeirio i gynnig credyd i gwsmeriaid presennol pan fyddant yn atgyfeirio eu ffrindiau: “Gwahoddwch eich ffrindiau i roi cynnig ar Gousto a byddwn yn rhoi £15 yn eich cyfrif a bydd eich ffrindiau’n cael gostyngiad o 60% ar bris eu blwch cyntaf, a gostyngiad o 30% am fis cyfan.”

Refer a friend

Gall cwsmeriaid barhau i wneud hyn hyd at gyfanswm £300, sy’n cynnig cymhelliant pwerus i ddal i berswadio ffrindiau i gofrestru gan ddefnyddio eu dolen atgyfeirio personol eu hunain. Gellir rhannu’r ddolen arbennig hon ar flogiau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag yn uniongyrchol ymhlith ffrindiau trwy e-bost, testun neu neges ebrwydd.

Mae gan Pasta Evangelists raglen atgyfeirio ffrindiau hefyd sy’n cynnig blwch o basta am ddim i gwsmeriaid pan fydd ffrind yn cofrestru, a bydd y ffrind yn cael gostyngiad o 50% ar bris ei flwch cyntaf. Trwy gynnig budd pendant fel hyn, bydd cymhelliant i rannu’r neges yn dod yn fwy deniadol byth.

Grym cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr

Mae cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn ffordd o annog defnyddwyr i siarad am eich brand ar-lein ac mae nifer o ddulliau y gallwch eu defnyddio i’w perswadio i wneud hyn. Mae cystadleuaeth yn un dull o wneud hyn – dyma ychydig yn rhagor o wybodaeth am y strategaeth sy’n sail i redeg cystadleuaeth.

Mae llunio hashnod ar gyfryngau cymdeithasol yn ddull arall o ysgogi marchnata ar lafar ar ffurf cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.

Mae Bodenyn gwneud hyn yn dda trwy annog cwsmeriaid i bostio lluniau ohonynt eu hunain mewn dillad Boden ochr yn ochr â’r hashnod ‘#bodenbyme’. Yn dilyn hyn, bydd delweddau’r hashnod i’w gweld ar yr hafan, a chynigir opsiwn i gwsmeriaid uwchlwytho eu llun yn uniongyrchol i’r oriel.

Boden

Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r hyn maent yn ei ddymuno i’r ddau barti. Gall tîm Boden eistedd yn ôl a mwynhau gwylio cwsmeriaid hapus yn rhannu’r neges am eu brand ar Instagram. Yn y cyfamser, bydd cwsmeriaid yn cael cyfle i brofi eu ‘pum munud o enwogrwydd’ a chasglu ychydig yn rhagor o ddilynwyr wrth wneud hynny, wrth i bobl glicio ar y ddolen i’w cyfrif Instagram.

Cydweithiwch â dylanwadwyr

Os ydych yn chwilio am ffordd arall i annog cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, efallai yr hoffech ystyried cydweithio â dylanwadwr. P’un ai a ydynt yn flogwyr poblogaidd ym maes ffyrdd o fyw a defnyddwyr Instagram megis RVK Loves, neu ddefnyddwyr YouTube sydd â llawer o ddilynwyr megis Tanya Burr, ceir potensial enfawr o ran marchnata os bydd dylanwadwr mawr ar y cyfryngau cymdeithasol yn hysbysu eu dilynwyr am eich brand.

Mae 40% ohonom wedi prynu cynnyrch ar ôl ei weld yn cael ei hyrwyddo gan ddylanwadwr ar YouTube, Instagram a Twitter, ac mae 49% yn cyfaddef eu bod yn dibynnu ar argymhellion gan ddylanwadwyr wrth benderfynu beth i’w brynu.

Gall hwn ymddangos fel dull drud ond nid oes yn rhaid iddo fod felly. Mae rhai dylanwadwyr yn fwy na bodlon llunio adolygiad neu rannu’ch brand â’u dilynwyr yn gyfnewid am gynnyrch am ddim.

Os yw hyn yn rhywbeth rydych yn ei ystyried, mae’n werth treulio amser yn nodi pwy yw’r postwyr uchaf ar hashnodau sy’n berthnasol i’ch busnes. Ar ôl i chi wneud hyn, cysylltwch â nhw i drafod opsiynau ar gyfer cydweithredu.

Mae cydweithrediad yn darparu budd i’r ddau barti ac mae’n debygol iawn y bydd gan eu dilynwyr ddiddordeb yn yr hyn mae eich busnes yn ei ddarparu. Mae’r cyfnewid hwn yn gyfle i’r ddau ohonoch gael rhagor o gyhoeddusrwydd trwy ymddangos ar gyfrifon y naill a’r llall.

Wedi dweud hynny oll, rydym yn rhagdybio bod gennych gynnyrch/gwasanaeth ardderchog eisoes y bydd defnyddwyr yn dymuno ei rannu â’u ffrindiau. Er mwyn i strategaeth farchnata ar lafar lwyddo, mae angen i chi sicrhau bod gennych chi hyder llwyr yn eich busnes eich hun wrth fynd ati i wneud hynny. Os byddwch yn buddsoddi mewn cynnyrch/gwasanaeth gwych ac yn cynnig cymorth gwych i gwsmeriaid, yna byddwch ar y trywydd iawn i sicrhau llwyddiant wrth farchnata ar lafar.

Post gwreiddiol wedi’i greu gan Rachel Ingram ar Barth y DU

Related blog posts

Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read
Sut i roi eich busnes newydd ar-lein
Read

© Nominet UK 2024