Pa mor hir ddylai fy mlogiau fod a pha mor aml ddylwn i eu postio?

Mae gennych chi wefan newydd gwych â thudalennau glanio wedi’u crefftio’n berffaith sy’n cyfleu pwy ydych chi a beth mae’ch busnes yn ei wneud – gan ddenu eich darpar brynwyr.

Ond er mwyn dringo’r peiriannau chwilio a chael eich gweld, bydd angen i chi barhau i gynhyrchu cynnwys defnyddiol. Ac mae hynny’n golygu y bydd angen i chi benderfynu faint o amser rydych chi’n fodlon ei fuddsoddi yn eich blog.

Yn anffodus, nid oes ymagwedd un ateb sy’n addas i bawb i’ch helpu i gynllunio’ch postiadau. Fodd bynnag, gallwn gynnig ystadegau ac esboniadau gwerthfawr i chi i’ch helpu i ddeall pam bydd busnesau’n blogio mor aml – a sut y gallwch ganfod y cydbwysedd cywir i wneud y gorau o’ch gwefan eich hun.

Mae rhagor o bostiadau yn golygu rhagor o draffig

Os byddwch yn postio cynnwys o safon uchel ychydig weithiau’r mis, mae hynny’n ddechrau da a bydd yn golygu y dylai’ch gwefan ddechrau denu traffig sylweddol dros gyfnod digon hir.

Ond, mewn gwirionedd, dim ond y lleiafswm rydych yn ei wneud – mae llawer mwy y gallwch ei ennill os byddwch yn gwthio pethau gam ymhellach.

Yn ôl dadansoddiad Hubspot o dros 13,000 o gwsmeriaid, roedd cwmnïau sy’n postio 16 neu ragor o bostiadau blog bob mis yn denubron i 3.5 gwaith gymaint o draffig â chwmnïau a oedd yn postio 4 gwaith y mis neu lai.

Ar ben hynny, roedd y cwmnïau hynny sy’n postio 16 gwaith y mis neu ragor hefyd yn denu oddeutu 4.5 gwaith gymaint o ddarpar brynwyr – sy’n golygu bod eu hwb mewn traffig yn troi’n gyfleoedd posib i’w busnes.

Awgrymodd dadansoddiad Hubspot hefyd fod cwmnïau â nifer uwch o bostiadau blog yn denu mwy o draffig na’r rhai â nifer is. Ac wedi cyfanswm o oddeutu 400 o bostiadau, dechreuodd y twf mewn traffig gyflymu.

Mae rhagor o bostiadau yn golyg rhagor o gyfleoedd

Mae cyfanswm iach o bostiadau a phostio’n aml yn caniatáu mwy o gyfle i hyrwyddo a rhyngweithio.

Mae’n debyg na fydd gan unrhyw unigolyn ddiddordeb ym mhob pwnc y byddwch yn ei drin a’i drafod. Ac ni fyddant yn chwilio am bob allweddair, chwaith.

Mae pob postiad y byddwch yn ei greu yn llinell bysgota sy’n cael ei thaflu i’r rhyngrwyd – felly pan fyddwch yn taflu gwahanol linellau pysgota yn amlach, byddwch yn sicrhau cynnydd sylweddol yn y posibilrwydd y gwnaiff rhywun frathu.

Mae’n debygol bod blogwyr difrifol yn farchnatwyr difrifol

Os bydd busnes yn uwchlwytho postiadau blog fwy na 4 gwaith yr wythnos, mae siawns dda eu bod yn weithredol mewn llawer o feysydd eraill hefyd – megis marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, marchnata e-bost, grwpiau diwydiant a digwyddiadau rhwydweithio.

Er bod blogio yn sicr wedi rhoi hwb i lawer o fusnesau, gallai rhywfaint o’r hwb hwnnw hefyd fod yn gysylltiedig â’u hymdrechion marchnata cyffredinol y tu hwnt i bostiadau blog yn unig.

Fe wnaiff blogio wella wrth ymarfer

Nid yw’n hawdd creu cynnwys gwych ac nid yw’n rhywbeth sy’n dod yn naturiol i’r mwyafrif o bobl. Mae’n debygol y bydd y rhai sydd wedi bod yn postio ers cryn amser yn gwingo wrth edrych yn ôl ar eu postiadau blog cynnar iawn.

Ond, ar ôl creu digon o bostiadau neu ar ôl cyfnod byr yn creu postiadau ag amlder uchel, bydd gan gwmni sy’n blogio ddealltwriaeth gliriach o’r canlynol:

  • Eu cynulleidfa a sut byddant yn ymateb i gynnwys
  • Eu diwydiant a’r pynciau maent yn ymdrin â nhw
  • Y math o strwythur, darllenadwyedd a llif sy’n dal sylw eu cynulleidfa

Ar ben hyn, bydd cwmnïau sydd wedi creu cannoedd o bostiadau blog yn cael eu gorfodi i ddechrau creu cynnwys o amgylch pynciau arbenigol, awgrymiadau datblygedig neu ddatblygiadau blaengar.

Maent eisoes wedi trafod y pynciau generig a rhagweladwy y bydd perchnogion blogiau yn aml yn eu trafod wrth ddechrau arni – ac mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid iddynt ddechrau troi at bynciau sy’n llai cyffredin.

Beth mae hyn yn ei olygu i’ch cwmni?

Mae’n golygu y dylech flogio mor aml ag y gallwch chi o fewn rheswm – heb roi eich cyllideb nac ansawdd y cynnwys yn y fantol.

Mae postiadau hwy yn perfformio’n well

Yn ôl  Yoast, sy’n arbenigwyr ar optimeiddio peiriannau chwilio, dylai postiad blog gynnwys 300 gair o leiaf er mwyn cyrraedd safle da pan ddefnyddir peiriannau chwilio.

Fodd bynnag, isafswm yw hyn, ac os ydych wedi canfod post blog â 300 o eiriau, byddwch yn gwybod y gall edrych yn fach ac yn brin o sylwedd yn gyffredinol.

Gellir darllen blog o’r maint hwn o fewn munud ac mae’n golygu, os bwriedir iddo fod yn fwy na diweddariad newyddion neu ateb byr i gwestiwn penodol, mae’n debygol o fod yn hynod anfoddhaol i’r darllenydd.

Pam mae postiadau hwy yn perfformio’n well?

  1. Mae mwy o le i gynnwys gwybodaeth werthfawr

Bydd chwilwyr fel arfer yn chwilio am atebion a byddant yn dymuno iddynt fod yn atebion boddhaol, cyflawn ac awdurdodol.

Os bydd rhywun yn dymuno wybod ‘Sut i newid batri eich car’ neu os byddant chwilio am ‘Canllaw i heicio mynydd yr Wyddfa’, ni fydd postiad blog â 300 o eiriau’n ddigonol. Mae’r pynciau hyn yn rhy eang ac yn gofyn am ddarparu gormod o fanylion mewn lle mor fyr.

Os nad ydych am i’ch ymwelwyr gilio yn ôl i Google er mwyn holi rhagor o gwestiynau, mae angen i chi gynnwys popeth byddant yn eich geisio ym mhostiad eich blog – a bydd hynny fel arfer yn golygu llunio darn o gynnwys sy’n ddigon hir i’w bodloni.

  1. Darparwch ragor o dystiolaeth ar gyfer Google

Po fwyaf y byddwch yn cynhyrchu cynnwys am bwnc penodol, mwyaf tebygol y bydd hi y gwnewch chi ddefnyddio allweddeiriau sy’n berthnasol i chwiliad rhywun.

Yn yr un modd, bydd gennych hefyd fwy o le i ddefnyddio’r allweddeiriau hynny mewn ffordd naturiol, oherwydd nid angen eu gwasgu i mewn yn artiffisial fel y gallai fod yn ofynnol yn achos blog byrrach.

Po fanylaf y byddwch yn trafod pwnc penodol, y mwyaf tebygol y byddwch yn defnyddio allweddeiriau cynffon hir yn naturiol (allweddeiriau â sawl rhan, fel ‘ceir hybrid awtomatig yn y DU’, yn hytrach na ‘ceir awtomatig’ yn unig).

Beth mae hynny’n ei olygu i chi?

Mae’n golygu y dylech geisio sicrhau bod pob postiad yn hwy na 300 o eiriau a pheidio â chyfyngu hyd eich postiadau (oni byddwch chi’n malu awyr). Os oes gennych lawer o wybodaeth ddiddorol a gwerthfawr i’w dweud ar bwnc, yna ewch amdani.

Ar y llaw arall, peidiwch â gwneud y camgymeriad o feddwl bod yn rhaid i bob postiad fod yn 2,500 o eiriau neu ragor. Dylai hyd eich postiad gyfateb i ehangder, dyfnder a phwysigrwydd y pwnc rydych yn ei drafod.

Mae maint yn hawdd – mae angen sgil a gofal a sicrhau ansawdd

Mae amlder a hyd blog yn bethau pwysig i’w hystyried.

Ond pan fyddwch yn ceisio canolbwyntio ar gyflwyno postiadau yn unol ag amserlen gaeth, gall fod yn hawdd peidio blaenoriaethu ansawdd eich ysgrifennu.

Mae p’un a yw post yn cael ei ystyried yn bost o ansawdd uchel ai peidio yn dibynnu ar y diwydiant a’r pwnc, lefelau gwybodaeth a disgwyliadau cyfredol y darllenydd ynghylch y postiad, ac arddull unigol eich awdur ei hun.

Mae’n anodd mesur ansawdd. Fodd bynnag, mae ychydig o safonau cyffredinol y gallwn eu gweithredu yn achos unrhyw bwnc.

Dylai postiad blog o ansawdd uchel fod yn:

  • Berthnasol i gynulleidfa, problem neu angen penodol
  • Digon llawn a chyflawn i gwmpasu’r pwnc hyd at lefel sy’n bodloni chwilfrydedd y darllenydd
  • Llawn gwybodaeth ddiriaethol, ddefnyddiol a chyfoes
  • Hawdd ei ddarllen, er y bydd yn darparu llawer o wybodaeth

Os byddwch yn dilyn y meini prawf uchod wrth ysgrifennu postiadau eich blog, byddant yn dod yn hwy o ganlyniad.

Ond mae cydbwysedd i’w gael.

Os ceisiwch gynhyrchu cynnwys sy’n fyr ac yn syml ei ddarllen, ni fydd yn llawn dop o wybodaeth ddefnyddiol. Ac os ceisiwch ysgrifennu postiad blog byr sy’n llawn gwybodaeth werthfawr, mae’n debygol na fydd yn hawdd ei ddarllen.

Efallai bod gennych nifer o resymau dros fethu gallu cynhyrchu postiadau blog hir yn rheolaidd. Gallai’r rhesymau hynny gynnwys amser, hyder a diffyg diddordeb mewn ysgrifennu, neu efallai mai’r her yw diffyg cyllideb i dalu awdur i gynhyrchu’r cynnwys hwn.

Os nad ydych yn teimlo’n ddigon profiadol neu os yw’r gost yn rhy uchel, gallwch ddechrau â phostiadau hir sydd ar ben byrrach y sbectrwm – oddeutu 1000 o eiriau.

Os oes gennych yr amser, y brwdfrydedd a’r gyllideb i greu cynnwys o ansawdd uchel sy’n hawdd ei deall, rhowch gynnig ar ddarnau hwy. Ond os byddwch yn penderfynu llunio darnau hir, bydd angen i chi weithio’n galed i gadw diddordeb eich darllenwyr o’r dechrau i’r diwedd. I wneud hyn, sicrhewch bob amser bod eich postiadau blog:

  • Wedi’u strwythuro’n dda – wedi’u rhannu’n adrannau trefnus ac wedi’u gwahanu gan is-benawdau llawn gwybodaeth sy’n dal sylw
  • Wedi’u cyfansoddi heb unrhyw wall, â sillafu a gramadeg perffaith (gall yr ap rhad ac am ddim Grammarly helpu â hyn)
  • Yn fywiog ac yn amrywiol: tôn llais personol a bywiog, geirfa amrywiol a strwythurau brawddegau amrywiol, a chymysgedd iach o dermau diwydiant ac ymadroddion llafar

Hyd ac amlder

Nid yw’n syndod nad oes un ateb priodol i bawb. Ond yr hyn a ddylai fod o ddiddordeb yw sut y gallwch sicrhau bod eich postiadau blog yn rhoi’r gwerth mwyaf i bobl.

I lawer, mae hynny’n golygu postiadau hir, manwl sy’n cael eu cyhoeddi’n rheolaidd ac yn aml. Ond nid yw hynny’n golygu bod hyd neu amlder penodol sy’n gweithio’n berffaith i bawb.

Bydd angen i chi gydbwyso’ch amser a’ch cyllideb yn unol â’ch sgiliau a gofynion eich diwydiant a’ch cynulleidfa benodol.

Dewis arall yw mabwysiadu dull cymysg. Gallai hyn olygu eich bod yn cynhyrchu un postiad â 3000 o eiriau bob mis, sy’n cynnig atebion boddhaol a manwl i’r darllenwyr i’r cwestiynau mawr maent yn chwilio amdanynt.

Y postiadau hwy hyn fydd y rhai sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith caled i chi: sef denu llawer iawn o chwilwyr ac arddangos eich arbenigedd a’ch gwerth ar bynciau a fydd yn parhau i fod yn berthnasol am flynyddoedd lawer. Byddwch yn gallu eu diweddaru ac ychwanegu atynt wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael – neu wrth i’ch darllenwyr godi cwestiynau newydd ar y pwnc.

Ynghyd â hyn, gallech greu postiadau blog byr ac ysgafn i ateb cwestiynau syml neu adrodd am newyddion y diwydiant neu ddiweddariadau busnes.

Os dilynwch yr ymagwedd hon, byddwch yn cwmpasu’r ddwy ochr. Bydd gennych lawer o bostiadau wythnosol i’w hyrwyddo ar draws eich sianeli cyfryngau cymdeithasol ac arddangos bod eich gwefan a’ch cwmni’n weithredol – ond bydd gennych rai postiadau mawr weithiau i’ch helpu i ddringo’n uwch yn y chwilotwyr.

Post gwreiddiol wedi’i greu gan Ed Palmer ar Barth y DU

Related blog posts

Update blackboard
Sut i ddiweddaru eich negeseuon blog i roi hwb i’ch gwefan
Read
Notice board
Chwe ffordd i adnewyddu eich strategaeth marchnata cynnwys
Read
Growing plants
7 ffordd o fesur perfformiad eich ymgyrchoedd e-bost
Read

© Nominet UK 2024