O Beis i Argraffu: mae’r Busnesau Cyntaf yn cysylltu’r dotiau gyda’r FSB

Mae nifer o fusnesau bach i ganolig yn newid at ddefnyddio brand rhyngrhwyd .cymru .wales, ynghyd ag Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru.

Clark’s ac Y Lolfa – dau frand enwog BBaCh gydag hanes hir ac ymysg y cwmniau cyntaf i fabwysiadu yr enwau parth newydd .cymru a .wales. Byddant yn ymuno â Fabulous Welshcakes yn Mae Caerdydd, y cwmni budd cyhoeddus arloesol Indycube, y Real Welsh Sausage Company yn y Trallwng ac hefyd Siambr Masnach Castell Nedd, y maent oll wedi penderfynu i ddefnyddio’r enwau parth newydd. Mae hyn yn adlewyrchiad o apel gwirioneddol yr enwau parth newydd i fusnesau bach led led Cymru.

Dywed Iestyn Davies, Pennaeth Materion Allanol FSB Cymru bod yna fanteision clir i’r byd busnes a’r BBaCh yn ei haelodaeth o 10,000 yng Nghymru i fabwysiadu’r enw parth newydd.

Dywed Mr Davies, “Mae’r FSB yng Nghymru gydag hunaniaeth benodol Cymreig a rydym wrth ein bodd i fedru tanlinellu hyn gan fabwysiadu yr enwau parth newydd ar gyfer ein gwefan yng Nghymru.”

“Yn union fel ein bod ni yn FSB Cymru wedi defnyddio yr enw parth newydd i danlinellu ein hunaniaeth Gymreig, rydym yn siwr bydd nifer o fewn ein haelodaeth megis Clark’s ac Y Lolfa yn awyddus i wneud yr un peth. Gall y busnesau hynny bod yn gynhyrchwyr bwyd fel Clark’s sy’n ymfalchio bod eu cynhyrch wedi ei wneud yn lleol, neu ddarparwyr twristiaeth sydd am danlinellu y profiad o wyliau Cymreig y medrant eu ddarparu.

“Eisioes mae nifer o’n haelodau mwyaf adnabyddus wedi mynegi diddordeb i fabwysiadu yr enwau parth newydd. Rydym yn gwybod o arolwg y gwnaethom fod dau draean o’n haelodau yng Nghymru am gynyddu eu presenoldeb arlein yn y flwyddyn i ddod a rydym yn siwr y bydd nifer yn ystyried y budd o gael enw parth .cymru neu .wales ar gyfer eu busnes.

Dywed Garmon Gruffydd o Y Lolfa:  “Fel busnes bach i ganolog rydym am fabwysiadu ac yn hynod falch o fabwysiadu .cymru a .wales. Rydym yn credu’n gryf mewn gosod Cymru ar y we a mae ein e-werthiant yn cynyddu’n aruthrol, yn arbennig llyfrau gydag apel byd eang megis llyfr ag argraffwyd yn ddiweddar, Undefeated: The Story of the 1974 Lions gan Rhodri Davies.”

“Fel busnes wedi ei leoli yng ngalon Cymru, mae cyrraedd cynulleidfa ehangach sy’n deall ein gwerthoedd a’n diwylliant yn help i eraill i ddeall ble y dechreuom ni a ble rydym ar hyn o bryd fel cyhoeddwyr ac argraffwyr. Bydd busnesau bach yn gweld .cymru .wales fel nodwedd arbenning ar y we byd eang.”

Mae Y Lolfa wedi ei leoli yn yr Hen Oesaf Heddlu yn Nhalybont (Ceredigion) ar y brif heol rhwng Aberystwyth a Machynlleth. Wedi ei sefydlu yn y chwechdegau, fe ymhyfrydodd y cwmni yn y rhyddid artistig a ddaeth yn sgil ffoto-litho ac yn y nawdegau fe croesawant y chwyldro technolegol, hi oedd y wasg gyntaf yng Nghymru i gael ei gwefan ei hun. Mae gan Y Lolfa “perfector presses” pum lliw, gydag hanner eu trosiant yn dod o waith print masnachol.

Dywed llefarydd ar ran Clarks Pies “Fel brand a greuwyd gan Mary Clark yn 1913, mae Clark’s Pies yn falch o’n hanes a ble y lleolwyd ni a felly mae ond yn naturiol i’n busnes i fabwysiadu.cymru a .wales fel ein enwau parth lefel uchaf. Rydym yn siwr y byddai ein cwsmeriaid yn disgwyl i ni wneud hynny.”

Fel cwmni mae Clark’s dros 100 mlwydd oed ac yn cofleidio yr oes ddigidol. Gwnaethpwyd Clark’s Pies am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn 1913 gan y sylfaenydd Janet Maud (Mary) Clark yn ei siop ar Stryd Donald, Y Rhath. Cafwyd torriad dros dro yn y cynhyrchu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ail gydio yn y 1920au cynnar. Adnabyddir Clark’s Pies yn aml yn lleol gan ei llysenwau sef “Clarkies” neu “Clarksies” a maent yn peis cig adnabyddus yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr ac yn ffefrynnau i deuluoedd yng Nghymru.

Dywed Jo Golley o .cymru .wales “Yn y misoedd nesaf bydd busnesau yn gweld y budd o frand Cymru. Cawsom ymateb gwych o fusnesau yn y Sioe Frenhinol wythnos diwethaf, gan adlewyrchu pa mor awyddus mae busnesau bach i ddefnyddio’r cyfle i farchnata eu hun yn Gymreig ar raddfa byd eang.”

NODIADAU I OLOGYDDION

Am ragor o fanylion am y rhaglen lawn o .cymru .wales cewch at

http://ourhomeonline.wales

http://eincartrefarlein.cymru

Wedi ei hatodi mae lluniau o Langfords, y Cwmni Selsig Cymreig, yn y Trallwng, Powys, ac Indycube yng Nghaerdydd, a fydd ymysg y cwmniau bach cyntaf fel sylfaenwyr .cymru .wales.

Manylion cyswllt: Daran Hill [email protected] / 02920 442020 / 0779 662 4955

Related blog posts

.cymru .wales: 19,000 Enw Parth i Gymru
Read
Sut i roi eich busnes newydd ar-lein
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read

© Nominet UK 2024