Dyddiad cau ar gyfer cofrestru nod masnach .cymru a .wales yn agosau

Mae’n rhaid i fusnesau sydd gyda nod masnach ac eisiau apelio i gwsmeriaid yng Nghymru, neu eisiau cydnabod eu treftadaeth Gymreig, cofrestru gyda’r “Trademark Clearinghouse” cyn 31ain Gorffennaf er mwyn sicrhau’r cyfle gorau posibl i gael eu henwau parth .cymru a .wales.

Fe fydd busnesau sy’n gwneud hyn yn gallu cofrestru eu parthau newydd yn ystod y cyfnod hawliau cofrestredig sy’n debygol o ddechrau yn fuan yn yr Hydref cyn i’r cyfnod “cyntaf i’r felin” ddechrau ym mis Ionawr. Fe fyddent hefyd yn gallu darganfod os yw unrhyw un arall wedi cofrestru ar gyfer parth gan ddefnyddio eu nodau masnach.

Mae’r rheiny heb nod masnach hefyd yn gallu cofrestru eu diddordeb ond ni fyddent yn gymwys ar gyfer cofrestru’n fuan. Am ragor o wybodaeth, ewch i eincartrefarlein.cym

Related blog posts

Digwyddiad Hanesyddol i Gymru ar y Rhyngrwyd: .cymru a .wales ar gael i bawb
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read
Sut i roi eich busnes newydd ar-lein
Read

© Nominet UK 2024