Digwyddiad Hanesyddol i Gymru ar y Rhyngrwyd: .cymru a .wales ar gael i bawb

Ar 1af Fawrth 2015 – Dydd Gŵyl Dewi – fe fydd enwau parth .cymru a .wales ar gael i bawb ar sail gyntaf i’r felin, gan osod Cymru ar lwyfan ddigidol fyd-eang.

Mae Ieuan Evans MBE, Cadeirydd Grŵp Cynghori .cymru a .wales a chyn-gapten tîm rygbi Cymru wedi croesawu rhyddhad y parthau a dywedodd, “Bwriad y parthau hyn yw datgan ein hangerdd, balchder a’n gwreiddiau Cymreig i’r byd ar-lein ac o ganlyniad rydym nawr gyda’r cyfle i wneud hynny, yng Nghymru ac ar draws y byd.

“Rwy’n hynod falch fy mod o’r diwedd yn gallu defnyddio fy nghyfeiriadau we .cymru a .wales ac rwy’n gwybod bydd unrhyw un gyda chysylltiad â Chymru eisiau gwneud yr un peth ac ymuno a fi wrth i ni Gymreigio’r we.”

Mae yna boblogaeth Gymreig gynyddol ar-lein – mae dros 95% o bobl o dan 44 mlwydd oed yn defnyddio’r rhyngrwyd*. Mae .cymru a .wales yn rhan o’r newid mwyaf i fyd parthau gyda chyflwyniad miloedd o enwau parth lefel uchaf newydd a Chymru yw un o’r ychydig wledydd sydd gyda dau enw parth. Rydym wedi datblygu dull unigryw yn arbennig ar gyfer y parthau hyn; fe fydd .cymru a .wales yn ddwyieithog ac yn caniatáu cofrestriad enwau gydag acenion y Gymraeg.

Mae’r enwau parth wedi bod ar gael yn gyfyngedig ers Medi 2014 ond o heddiw ymlaen, fe fydd unrhyw un sydd eisiau dangos eu balchder cenedlaethol a’u hunaniaeth Gymreig yn gallu dewis y cyfeiriad we neu e-bost delfrydol trwy eu darparwr parthau. Mae ymchwil newydd yn dangos diddordeb sylweddol yng nghartref Cymru ar-lein, gyda 65% o’r rheiny a holwyd yn nodi eu bod eisiau amlygu eu cysylltiadau Cymreig gydag enw parth .cymru neu .wales os fydden nhw’n lansio gwefan personol neu fusnes newydd.**.

Mae Llywodraeth Cymru, S4C ac Undeb Rygbi Cymru i gyd yn dathlu Dydd Gŵyl dewi wrth lansio eu gwefannau .cymru a .wales newydd heddiw. Mae llawer o fusnesau, brandiau a sefydliadau blaenllaw Cymru eisoes yn cefnogi’r parthau newydd gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Stadiwm y Mileniwm, Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bychain Cymru, tîm rygbi’r Scarlets a Chyngor Celfyddydau Cymru.

NODIADAU I OLYGYDDION

Cyfweliadau:
Pryd: Dydd Llun 2il Fawrth 2015
Pwy: Ieuan Evans MBE, Cadeirydd Grŵp Cynghori .cymru .wales
Sut: Cysylltwch â Naomi Williams [email protected], 02920 442020 | 07999983934 i drefnu cyfweliad.

Manylion erthygl ychwanegol:

Fe fydd enwau parth .cymru a .wales newydd ar gawl i’w cofrestru o dydd Sul 1af Fawrth. Am ragor o wybodaeth am .cymru .wales, ewch i: http://eincartrefarlein.cymru
@eincartref
Facebook

  • *    Ffynhonnell: Buddion Economaidd parth Rhyngrwyd i Gymru paratowyd gan LE Wales Hydref 2011
  • ** Arolwg Cenedlaethol Cymru 2013-14, Llywodraeth Cymru

Amdan Nominet

Mae’r prosiect .cymru a .wales wedi ei redeg yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru gyda chefnogaeth dechnegol a gweithredol Nominet, sy’n gyfrifol am yr ôl-ddodiad adnabyddus, .co.uk. Fel cwmni dielw, mae Nominet wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn yn hyrwyddiad economi ddigidol gryf, a datblygiad y rhyngrwyd yng Nghymru. Nominet sy’n gyfrifol am redeg seilwaith rhyngrwyd .UK, mae gennym dros 2,800 o aelodau ac rydym wedi ymrwymo i weithredu er lles y cyhoedd. Gydag enillion ein busnes cofrestru llwyddiannus, gwnaethom sefydlu a chefnogi Ymddiriedolaeth Nominet, sefydliad elusennol annibynnol sy’n canolbwyntio ar gynyddu mynediad, diogelwch ac addysg ynglŷn â materion y rhyngrwyd.

Am ragor o wybodaeth

Cysylltwch a Naomi Williams, [email protected], 02920 442020 | 07999983934.

Related blog posts

Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read
Busnesau Cymru’n medi manteision .cymru a .wales
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read

© Nominet UK 2024