7 ffordd o fesur perfformiad eich ymgyrchoedd e-bost

Mae marchnata dros e-bost yn parhau i fod yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o farchnata’n ddigidol ar gyfer busnesau bach. Mae’n cael ei ddefnyddio’n fwy nag erioed mewn byd lle mae’n rhaid i frandiau gysylltu’n rhithiol â’u cwsmeriaid.

Mae 78% o farchnatwyr wedi gweld cynnydd mewn ymgysylltiad e-bost dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae 59% o farchnatwyr yn dweud mai e-bost sy’n cynnig yr enillion gorau ar fuddsoddiad.

Mae llawer o bwyslais yn cael ei roi’n aml ar greu ymgyrchoedd e-bost llwyddiannus a chyrraedd eich cynulleidfaoedd drwy wahanol ddulliau o farchnata e-bost. Fodd bynnag, mae’r cam ar ôl anfon eich ymgyrch e-bost yr un mor bwysig i lwyddiant eich ymgyrch marchnata e-bost.

Drwy fesur perfformiad eich ymgyrchoedd marchnata e-bost, bydd modd i chi gael blas gwerthfawr o beth yw ymddygiad eich cwsmeriaid, eich cynnwys mwyaf poblogaidd a’r amseroedd gorau i anfon eich negeseuon, i enwi ond rhai. Bydd hyn oll yn gallu eich helpu gydag ymgyrchoedd yn y dyfodol a gwella’ch cyrhaeddiad a’ch ymgysylltiad.

Bydd y blogiad yma’n trafod saith mesurydd metrig defnyddiol a phoblogaidd y gall eich busnes bach eu monitro er mwyn helpu i ddeall a dadansoddi perfformiad eich ymgyrchoedd e-bost a’u gwella ar gyfer y dyfodol. Mae’n werth nodi y bydd angen i chi fod yn rheoli negeseuon e-bost o lwyfan CRM neu drwy feddalwedd anfon e-byst ar-lein (fel Mailchimp neu HubSpot) er mwyn gweld y mesuryddion metrig rydyn ni’n eu trafod heddiw.

Cyn i ni ddechrau, gadewch i ni edrych yn gyflym ar ba mor bwysig yw deall eich amcanion wrth fesur ymgyrch e-bost.

Deall eich amcanion o ran marchnata e-bost

Mae modd defnyddio marchnata e-bost i gefnogi llawer o weithgarwch busnes, o gylchlythyron i negeseuon hyrwyddo gwerthiannau, cyhoeddiadau busnes a negeseuon croesawu. Er bod y mesuryddion metrig yn werthfawr i fonitro a dadansoddi perfformiad unrhyw ymgyrch e-bost, mae’n bwysig meddwl am yr hyn rydych chi am i’ch ymgyrch ei gyflawni gan y bydd hyn yn unigryw i’ch busnes.

Er enghraifft, os ydych chi’n anfon e-bost yn cyhoeddi newidiadau i oriau agor eich busnes, eich amcan fyddai cael gymaint o’r derbynwyr â phosib i agor a darllen y neges. Neu os ydych chi’n sôn wrth eich tanysgrifwyr am eich cynnig arbennig diweddaraf, mae’n bosib y byddwch am fesur cyfraddau clicio neu gyfraddau trosi hefyd.

Yr hyn sy’n bwysig yw cofio bod eich meincnodau, y mesuryddion metrig rydych chi’n talu fwyaf o sylw iddyn nhw a beth mae llwyddiant yn ei olygu i chi, yn unigryw ar sail nodau eich busnes. Dyma pam mae’n bwysig deall beth rydych chi am ei chyflawni gydag ymgyrch farchnata e-bost cyn canolbwyntio ar fesuryddion metrig penodol. Mae hefyd yn bwysig ystyried sut rydych chi’n cymharu eich ymgyrchoedd e-bost gyda’i gilydd.

Wrth gadw’r uchod mewn cof, mae llawer o fesuryddion metrig marchnata e-bost sy’n debygol o fod yn ddefnyddiol ar gyfer y rhan fwyaf o ymgyrchoedd. Fe edrychwn ni ar saith o’r rheini nawr.

Y mesuryddion metrig gorau ar gyfer marchnata dros e-bost

1. Cyfradd agor

Un o’r mesuryddion metrig marchnata e-bost mwyaf cyffredin i edrych arnyn nhw ar ôl anfon e-bost yw’r gyfradd agor. Mesuriad yw hwn o faint o’r derbynwyr sydd wedi agor eich neges, sy’n cael ei arddangos fel canran fel arfer.

Mae ‘cyfradd agor dda’ yn dibynnu ar lawer o ffactorau, er enghraifft y diwydiant rydych chi ynddi ac ansawdd y gronfa ddata o gyfeiriadau e-bost. Mae meincnodau diweddar gan Campaign Monitor yn nodi mai’r gyfradd agor gyfartalog yn 2020 oedd 18%, er bod ffactorau fel enw’r anfonwr, pwnc yr e-bost, amser anfon yn effeithio ar gyfraddau agor, felly mae’n unigryw i bob busnes.

Gall cymharu cyfraddau agor rhwng eich ymgyrchoedd eich helpu i ddechrau dadansoddi:

  • Pa negeseuon e-bost sy’n ennyn mwyaf o ddiddordeb ymhlith eich cwsmeriaid. A oes gan negeseuon e-bost hyrwyddo gyfradd agor uwch o gymharu â chylchlythyron er enghraifft?
  • Yr amser gorau i anfon eich ymgyrchoedd. A oes cynnydd mewn cyfraddau agor pan fyddwch chi’n anfon neges ar amser penodol neu ddiwrnod penodol?
  • Llinellau pwnc sy’n perfformio orau. A oes unrhyw linellau pwnc negeseuon diweddar wedi achosi cynnydd mewn cyfraddau agor? Y ffordd orau o ddadansoddi hyn yw drwy brofion A/B a byddwn ni’n trafod hyn yn fanylach yn nes ymlaen

2. Cyfraddau clicio

Mesurydd metrig marchnata e-bost poblogaidd arall yw mesur cyfraddau clicio, ac mae’n ffordd o fesur faint o dderbynwyr sydd wedi clicio ar ddolen yn eich neges, sy’n aml yn cael ei nodi fel canran.

Yn debyg i gyfraddau agor, mae cyfraddau clicio yn ddibynnol ar lawer o ffactorau, o’r diwydiant i thema’r cynnwys, nifer y dolenni a’r galwadau i weithredu. Yn yr un astudiaeth, mae Campaign Monitor yn awgrymu mai’r gyfradd gyfartalog ar gyfer cyfraddau clicio llynedd oedd 2.6%.

Os mai nod eich ymgyrch farchnata yw annog pobl i ymweld â’ch gwefan, i ddarllen blogiad neu i ymweld â’ch siop ar-lein efallai, yna mae cyfraddau clicio yn fesurydd metrig pwysig i chi.

3. Cyfraddau trosi

Mae hyn yn ein harwain ymlaen at y mesurydd metrig e-bost nesaf, sef cyfraddau trosi. Mae’n bosib eich bod eisoes wedi clywed y term cyfraddau trosi pan ddaw hi at e-fasnach, ond mae’n fesurydd metrig pwysig pan ddaw hi at fesur pa mor effeithiol yw eich ymgyrch farchnata e-bost hefyd.

Mae cyfraddau trosi yn ddull o fesur faint (canran) o dderbynwyr eich e-bost sydd wedi cwblhau neu ddilyn gweithred benodol yn eich ymgyrch. Gallai hyn fod ar sail clicio i ddarllen eich blog, prynu cynnyrch neu lawrlwytho bapur gwyn neu e-lyfr.

Fel soniwyd ar ddechrau’r erthygl, bydd gan bob ymgyrch e-bost nod, ac mae cyfraddau trosi yn gallu bod yn ddull mesur effeithiol i weld faint o bobl sydd wedi cyflawni’r nod honno.

4. Cyfraddau bownsio

Dull o fesur faint (canran) o’r negeseuon e-bost na chyrhaeddodd mewnflychau eich derbynwyr yn llwyddiannus yw cyfradd fownsio. Mae dau brif gategori pan ddaw hi at gyfradd fownsio:

  • Bownsiadau caled: pan fydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at gyfeiriadau annilys, cyfeiriadau sydd wedi cau neu sydd ddim yn bodoli, ac yn annhebygol o gyrraedd yn llwyddiannus
  • Bownsiadau meddal: sy’n dangos bod problem dros dro gyda chyfeiriad e-bost er ei fod yn gyfeiriad dilys, er enghraifft am fod mewnflwch rhywun yn llawn

Mae eich cyfradd fownsio yn arwydd da o ansawdd eich cronfa ddata o gyfeiriadau e-bost. Mae Campaign Monitor yn awgrymu y dylai eich cyfraddau bownsio fod yn 2% neu’n llai, felly gall fod yn syniad da monitro’r mesurydd metrig yma rhag ofn bod cynnydd cyflym. Argymhellir tynnu unrhyw gyfeiriadau sy’n bownsio’n galed o’ch cronfa ddata oherwydd gallan nhw niweidio enw da eich cyfeiriad IP.

5. Cyfradd dad-danysgrifio

Canran y bobl sy’n dewis dad-danysgrifio o’ch negeseuon ar ôl ymgyrch e-bost yw cyfradd dad-danysgrifio, felly unigolion sydd wedi pwyso’r botwm dad-danysgrifio sydd i’w weld ar waelod negeseuon e-bost.

Mae Optinmonster yn awgrymu bod unrhyw ganran o dan 0.5% yn gyfradd dad-danysgrifio dda ar gyfer ymgyrch e-bost, er y gallai hyn amrywio ar sail llawer o ffactorau, o’r diwydiant i ansawdd y gronfa ddata.

Er ei bod hi’n naturiol i rai pobl ddad-danysgrifio o ymgyrch e-bost, gallai cynnydd cyflym mewn cyfradd awgrymu sawl peth:

  • Mae llawer o amser wedi bod rhwng ymgyrchoedd e-bost, neu ddim llawer o amser
  • Doedd y cynnwys ddim yn atseinio’n dda iawn gyda’r gynulleidfa
  • Problemau ansawdd gyda’r gronfa ddata o gyfeiriadau; efallai nad yw gweithgarwch creu cyfleoedd yn ennyn y bobl gywir
  • Y neges e-bost ddim yn ymddangos yn gywir ar bob dyfais neu raglenni e-bost (e.e. Outlook a Gmail)

Mae’n bwysig cofio y bydd cronfa ddata lai o gyfeiriadau e-bost sydd o safon well yn fwy buddiol i’ch busnes. Hyd yn oed os yw eich cynulleidfa’n llai, y nod yn y pen draw yw darparu cynnwys perthnasol o safon uchel y bydd pobl yn ymgysylltu ag e.

6. Cwynion am sothach a chyfraddau anfon ymlaen

Mae llawer o gamau y gall derbynwyr eu cymryd ar ôl i’ch ymgyrch e-bost eu cyrraedd. Gall fod yn syniad da cadw’r rhai o’r rhain mewn cof i sylwi ar dueddiadau neu gynnydd cyflym.

Un o’r rhain yw cwynion am sothach, ac mae’n mesur faint o bobl sydd wedi cwyno am eich neges i’w darparwyr e-bost. Er eich bod yn gobeithio na fydd dim o’ch ymgyrchoedd e-bost yn cael eu nodi fel sothach, gallai fod yn ddefnyddiol cadw llygad ar y rhifau yma rhag ofn bod ymgyrch, testun neu linell pwnc penodol yn arwain at gynnydd mewn cwynion.

Nodwedd arall o’r rhain yw cyfraddau anfon ymlaen, ac mae’n fesuriad (canran) o’r bobl sy’n anfon eich neges ymlaen at rywun arall neu sy’n rhannu eich ymgyrch e-bost. Gall monitro’r mesurydd metrig yma eich helpu i weld os oes unrhyw gynnwys neu ymgyrch benodol wedi cael effaith ar eich cynulleidfa, ac effaith ddigonol i’w hannog i anfon y neges ymlaen at ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr. Er enghraifft, mae’n bosib y byddai’r gyfradd anfon ymlaen yn uwch ar neges e-bost sy’n hyrwyddo eich sêl diweddaraf na’ch e-gylchlythyr misol.

7. Canlyniadau profion A/B

Mae profion A/B neu brofion ymrannu yn ffordd effeithiol o brofi elfennau penodol o’ch ymgyrchoedd e-bost, ac mae’n gweithio drwy anfon dau amrywiad o e-bost a chymharu’r canlyniadau.

Mae hyn yn fwyaf effeithiol pan fydd un elfen yn unig o ymgyrch yn cael ei phrofi, er enghraifft anfon yr un ymgyrch e-bost gyda dau deitl gwahanol ar y ddwy neges neu anfon ymgyrch e-bost gyda’r un teitl ond botwm galwad i weithredu gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth am brofion A/B mewn ymgyrchoedd marchnata e-bost ar gael yma.

Os byddwch yn cynnal prawf ymrannu ar ymgyrch e-bost, fe gewch fynediad at fesuryddion metrig gwerthfawr y gallwch eu cymharu’n uniongyrchol â’i gilydd. Er enghraifft, mae’n bosib y byddech chi’n gweld newid mewn cyfraddau agor gyda theitl penodol neu gynnydd mewn cyfraddau clicio ar gyfer botwm galwad i weithredu penodol.

Dim ond rhai o’r mesuryddion y bydd gennych fynediad atynt wrth ddefnyddio meddalwedd marchnata e-bost yw’r rhain, a gallan nhw fod yn ffyrdd effeithiol o fesur perfformiad eich gweithgarwch e-bost er mwyn helpu i wella eich ymgyrchoedd yn y dyfodol.

Os hoffech ddysgu rhagor am fesur ymgyrchoedd e-bost neu sut i fanteisio i’r eithaf ar farchnata e-bost, gallai’r adnoddau yma fod yn ddefnyddiol:

 

Postiwyd yn wreiddiol gan Zoe Brown ar UK Domain.

Related blog posts

SEO
Pum camgymeriad SEO dylai pob busnes eu hosgoi
Read
Email notification
Cyflwyniad i awtomeiddio e-bost ar gyfer busnesau bach
Read
Sut i reoli’ch busnes bach ymysg coronafeirws
Read

© Nominet UK 2024