Pum camgymeriad SEO dylai pob busnes eu hosgoi

Mae optimeiddio peiriannau chwilio, neu SEO, yn elfen allweddol o bob strategaeth farchnata ar-lein. Mae’n helpu i wneud i’ch gwefan ymddangos yn uwch mewn canlyniadau peiriannau chwilio, yn cynyddu traffig, ac yn sicrhau bod modd i’ch cynulleidfa darged ddod o hyd i chi ar-lein.

Mae Google yn gosod pwyslais mawr ar gynnwys o safon sy’n ddefnyddiol iawn i’r defnyddiwr. Does dim llawer o oddefgarwch ganddo i arferion gwael, sydd hefyd yn cael ei alw’n SEO het ddu, sy’n golygu bod camgymeriadau’n gallu bod yn gostus.

Mae gwneud camgymeriadau SEO yn gallu arwain at gosbau sy’n golygu y bydd gwefannau’n ymddangos yn is mewn canlyniadau. Dyma’r peth olaf mae unrhyw fusnes ei eisiau, felly mae’r erthygl yma’n edrych ar gamgymeriadau cyffredin o ran SEO a sut i’w hosgoi.

Pum camgymeriad SEO, a chyngor ar sut i’w hosgoi

 

1. Adeiladu dolenni annigonol

Enw ar y broses o gael gwefannau eraill i gysylltu â’ch gwefan chi yw adeiladu dolenni. Mae’n dacteg SEO wych oherwydd mae’n cyfeirio traffig ac yn helpu i greu awdurdod ar gyfer eich gwefan. Mae ôl-ddolenni yn dweud wrth Google bod gwefan yn adnodd o safon ac felly’n fwy tebygol o osod y wefan yn uwch mewn canlyniadau chwilio.

Dylai busnesau fod yn ofalus wrth ddatblygu strategaeth adeiladu dolenni gan fod modd gwneud llawer o gamgymeriadau:

  • Gallai prynu dolenni ymddangos fel ffordd gyflym a diniwed o roi hwb i’ch ymdrechion SEO, ond dydyn ni ddim yn argymell gwneud hynny. Mae Google yn beiriant clyfar iawn sy’n gallu canfod dolenni annaturiol, a gallai dynnu gwefan allan o’i ganlyniadau’n gyfan gwbl os bydd yn sylwi ar hyn.
  • Er bod rhai yn cytuno i rannu dolenni gyda gwefan flaenllaw, gall hyn fod yn niweidiol os na fydd yn cael ei wneud yn gywir. Gall peiriannau chwilio sylwi os oes llawer o gysylltiadau rhwng gwefannau sbam â’ch gwefan chi. Gallai hyn arwain at gosbau sy’n golygu y bydd gwefannau’n ymddangos yn is mewn canlyniadau chwilio, neu’n cael eu gwahardd yn gyfan gwbl.

Beth allwch chi ei wneud yn lle hynny:

Y cyfryngau cymdeithasol yw’r ffordd orau o yrru traffig o safon i’ch gwefan. Mae’r rhain yn llwyfannau sydd ag enw da ac mae peiriannau chwilio yn ymddiried ynddyn nhw felly chewch chi ddim eich cosbi am eu defnyddio nhw.

P’un a oes gennych gynnyrch, cynnig arbennig, tudalen benodol neu flogiad newydd i’w hyrwyddo, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn lle perffaith i roi gwybod i’ch dilynwyr a’u cyfeirio nhw at eich gwefan.

Coca Cola social media

Mae annog cwsmeriaid i adael adborth ar wefannau adolygiadau hefyd yn ffordd dda o greu dolenni mae peiriannau chwilio yn ymddiried ynddyn nhw. Os edrychwch chi ar wefan TripAdvisor er enghraifft, mae yna fotwm sy’n mynd â chi’n uniongyrchol i wefan y busnes.

Trip Advisor

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi creu proffil ar yr holl wefannau adolygu sy’n berthnasol i’ch diwydiant. Yn ogystal â bod yn declyn adeiladu dolenni da, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r adborth rydych chi wedi’i gael a’ch bod yn ymateb iddo.

Mae adeiladu dolenni mewnol yn gallu bod yn ffordd dda o godi eich gwefan mewn canlyniadau chwilio hefyd. Er enghraifft, gallech ysgrifennu blogiad am gynnyrch penodol ac yna creu dolen i dudalen y cynnyrch ar eich gwefan. Cofiwch ddefnyddio’ch allweddeiriau yn eich testun angori er mwyn rhoi hwb ychwanegol i’ch SEO.

Os ydych chi’n newydd i faes adeiladu dolenni ac am osgoi gwneud camgymeriadau SEO, gallai’r erthyglau yma eich helpu:

2. Stwffio allweddeiriau

Pan fydd defnyddiwr yn chwilio am destun mewn peiriant chwilio, fydd y peiriant chwilio ond yn gwybod bod angen cynnwys gwefan yn y canlyniadau os bydd yr allweddeiriau cywir wedi cael eu defnyddio. Mae hyn yn golygu y gallai fod yn demtasiwn i fusnesau stwffio gymaint o allweddeiriau â phosib yn eu cynnwys.

Dyma un o’r camgymeriadau SEO mwyaf cyffredin, ac ni fydd gwneud hynny yn eich helpu yn anffodus. Mae defnyddio llawer iawn o allweddeiriau yn arwydd o gynnwys o safon isel, a gallai hynny niweidio safle eich gwefan mewn canlyniadau chwilio. Yn fwy na hynny, mae’n creu profiad negyddol ar gyfer y defnyddiwr, sy’n golygu bod pobl yn anhebygol o ymweld â’r wefan eto.

Beth allwch chi ei wneud yn lle hynny:

Defnyddiwch declyn ymchwilio i allweddeiriau am ddim gan Google i nodi’r geiriau a’r ymadroddion sy’n berthnasol i’ch busnes. Yn hytrach na chael rhestr hirfaith o allweddeiriau, canolbwyntiwch ar gynnwys rhai ymadroddion cryf sy’n mynd i gyfeirio traffig o safon i’ch gwefan. Mae gan Moz.com ganllaw da i ddechreuwyr ar sut i wneud ymchwil i allweddeiriau.

Bydd Google bob amser yn rhoi blaenoriaeth i gynnwys defnyddiol sy’n llawn gwybodaeth ac yn defnyddio allweddeiriau priodol ar gyfer y cyd-destun. Mae’n bwysig iawn bod eich allweddeiriau’n llifo’n naturiol yn eich cynnwys. Un cyngor defnyddiol yw mynd drwy eich holl dudalennau a darllen y cynnwys yn uchel. Os na fydd yn swnio’n iawn, ceisiwch newid lle mae’r allweddeiriau’n ymddangos.

Mae’r llefydd eraill y gallwch gynnwys allweddeiriau yn cynnwys:

Metaddata (tagiau teitlau a disgrifiadau)

SEO meta data example

Testun amgen delweddau 

Image ALT text example

URL tudalennau 

URL web address

Os oes angen cymorth i berffeithio eich strategaeth allweddeiriau, darllenwch y canlynol:

 3. Dyblygu cynnwys

Mae’n nodi’n gwbl glir ar dudalen cymorth Consol Chwilio Google mai’r peth pwysicaf y gall gwefan ei wneud ar gyfer SEO yw darparu cynnwys o safon.

Yn anffodus, mae perchnogion busnes yn aml yn rhy brysur i gynhyrchu cynnwys newydd, defnyddiol a diddorol yn rheolaidd. O ganlyniad, un o’r camgymeriadau SEO mwyaf cyffredin yw dyblygu cynnwys.

Pan fydd amser yn brin a phan na fydd cwmnïau’n gwybod beth i’w ddweud, gallai fod yn demtasiwn iddyn nhw gopïo testun o wefan arall neu o ran arall o’u gwefan. Yn anffodus, dydyn nhw’n gwneud dim cymwynas â’u hunain. Anaml iawn fydd peiriannau chwilio yn dangos mwy nag un enghraifft o’r un cynnwys, sy’n golygu y gallai cwmnïau fod yn difetha unrhyw gyfle sydd ganddyn nhw o ymddangos mewn canlyniadau chwilio. Yn ogystal â hynny, nid yw’n arfer da ac mae’n annhebygol o helpu busnes i gynhyrchu cynnwys perthnasol o safon ar gyfer eu cynulleidfa, ac mae deddfau hawlfraint yn berthnasol i gynnwys ar-lein hefyd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, y gosb fydd ymddangos yn is mewn canlyniadau chwilio. Wedi’r cyfan, gyda chymaint o gynnwys ar gael allan yna, mae bron yn amhosib i’r we fod yn gwbl wreiddiol. Weithiau, mae’n amhosib osgoi hynny – er enghraifft os bydd cynnyrch yn cael ei ddisgrifio.

Gallai postio cynnwys dyblyg neu gynnwys sydd wedi’i gribo yn fwriadol neu’n ormodol olygu bod Google yn dileu gwefan o’i fynegai, sy’n golygu na fydd gwefan yn ymddangos o gwbl mewn canlyniadau chwilio.

Beth allwch chi ei wneud yn lle hynny:

Os yw eich tudalennau’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, bydd eich cynnwys yn denu ymwelwyr, bydd gwefannau eraill yn creu dolenni at eich cynnwys, ac o ganlyniad, bydd peiriannau chwilio yn eich cydnabod fel awdurdod da.

Dylai’r cynnwys fod yn ddefnyddiol, yn llawn gwybodaeth ac yn rhoi disgrifiad clir a chywir o’ch cynnyrch neu’ch gwasanaethau. Cyngor da arall yw sicrhau bod eich cynnwys mor gynhwysfawr â phosib fel nad oes angen i ddarllenwyr fynd i wefan arall i gael rhagor o wybodaeth.

Dylech gynhyrchu cynnwys sy’n cyfateb i anghenion eich cynulleidfa darged. Gallwch bennu hyn drwy ddefnyddio dadansoddiadau i weld eich tudalennau poblogaidd, edrych ar chwiliadau allweddeiriau neu ofyn i gwsmeriaid beth hoffen nhw weld mwy ohono.

Mae’n allweddol defnyddio dadansoddiadau er mwyn gweld sut mae ymwelwyr yn defnyddio eich cynnwys. Meddyliwch am y canlynol:

  • Faint o amser mae pobl yn ei dreulio ar dudalen? Os mai dim ond eiliadau yn unig, dydy eich cynnwys ddim yn addas i’ch cynulleidfa, ac mae angen i chi ei wneud yn fwy apelgar.
  • Pa dudalennau sy’n creu cyfraddau trosi? Defnyddiwch y tudalennau yma fel sail ar gyfer gweddill eich gwefan, oherwydd dyma’r strategaeth sy’n gweithio ar eich cyfer chi.

Os nad oes gennych amser i gynhyrchu cynnwys o safon eich hunan, ystyriwch allanoli’r gwaith i weithiwr llawrydd neu gyflogi rhywun i’w wneud. Gall fod yn gost ychwanegol i chi, ond gallai eich helpu i gynhyrchu incwm na fyddech chi wedi’i wneud fel arall.

Tacteg dda arall yw adnewyddu blogiadau a thudalennau gwe sydd gennych yn barod, oherwydd gallai hyn eich helpu i rannu cynnwys cyfredol sydd eisoes o ddiddordeb i’ch cynulleidfa, a gallai roi hwb i’ch SEO hefyd.

Os ydych chi’n brin o syniadau am gynnwys, dyma rywfaint o ysbrydoliaeth i’ch helpu:

4. Anghofio creu gwefan ar gyfer ffonau symudol

Mae dyfeisiau symudol i gyfri am tua hanner yr holl draffig ar y we yn fyd-eang. Mae hyn yn golygu os nad yw gwefan yn addas i’w phori ar ffonau symudol, gallai fod yn gelyniaethu hanner ei hymwelwyr.

Ac nid dim ond gelyniaethu cwsmeriaid posib fydd hynny’n ei achosi. Ers 2018, mae Google wedi bod yn defnyddio mynegeio ffonau symudol yn gyntaf, sy’n golygu ei fod yn rhoi blaenoriaeth i wefannau sy’n gweithio’n well ar ddyfeisiau symudol.

Er mwyn gweld a yw gwefan yn un ymatebol, defnyddiwch ffôn clyfar i weld a yw hi’n culhau i ffitio ar sgrin lai. Dylai’r wefan fod yn hawdd ei defnyddio ac mae’n bwysig bod ymwelwyr yn gallu darllen yr holl gynnwys heb orfod sgrolio o ochr i ochr (oni bai bod y wefan i fod i sgrolio o ochr i ochr). Dylai defnyddwyr fod yn gallu dod o hyd i alwadau i weithredu a chlicio arnyn nhw, dylai fod yn hawdd gallu cau ffenestri naid, a pheidiwch â defnyddio Flash oherwydd fydd dim modd i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr ffonau symudol weld y cynnwys.

Dyma enghraifft o wefan sy’n gweithio’n dda ar ffonau symudol.

Mobile friendly example

Beth allwch chi ei wneud yn lle hynny:

Os bydd defnyddwyr yn teimlo’n rhwystredig wrth ddefnyddio’r wefan yna byddan nhw’n ei gadael hi’n syth. Yn ogystal â’i gwneud hi’n amhosib i chi werthu cynnyrch, bydd hyn yn effeithio ar eich SEO. Y newyddion da yw bod modd addasu eich gwefan i fod yn hawdd i’w defnyddio ar ffonau symudol.

Os ydych chi wedi defnyddio cwmni fel WIX i greu eich gwefan, mae ganddyn nhw nodwedd er mwyn gwneud eich gwefan yn ymatebol. Does dim angen gwybodaeth codio arnoch chi, yr unig beth sydd angen ei wneud yw llusgo a gollwng cynnwys i wneud yn siŵr ei fod yn y lle iawn.

Mae modd i chi allanoli’r gwaith yma i asiantaeth marchnata digidol hefyd. Os na allwch chi fforddio talu asiantaeth, mae gwefannau fel Fiverr yn cynnig gwasanaethau amgen rhatach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen adolygiadau cyn defnyddio gwasanaethau pobl a’u bod yn darparu enghreifftiau o brosiectau blaenorol.

Os hoffech chi ddysgu mwy am y pwnc yma, darllenwch y blogiad yma – Pam mae cael gwefan sy’n gweithio ar ffonau symudol yn bwysicach nag erioed.

5. Peidio â defnyddio dadansoddiadau

Mae dadansoddiadau yn rhan bwysig o SEO. Yn ogystal â sawl peth arall, mae’r data sydd ar gael o lwyfannau am ddim fel Google Analytics yn gallu rhoi llawer o wybodaeth i fusnesau am eu gwefannau, gan gynnwys:

  • Faint o draffig sy’n ymweld â’r wefan
  • O ble mae’r traffig yn dod
  • Pa allweddeiriau sy’n denu ymwelwyr
  • Os yw talu am hysbysebion yn gweithio
  • Pa dudalennau sy’n boblogaidd
  • Faint o amser mae pobl yn treulio ar eich gwefan
  • Beth sy’n helpu cyfraddau trosi

Mae’r wybodaeth yma’n werthfawr iawn i unrhyw fusnes oherwydd mae’n eu galluogi nhw i wella’u hymgyrchoedd a nodi lle dylen nhw fod yn buddsoddi amser ac arian.

Beth allwch chi ei wneud yn lle hynny:

Os nad ydych chi wedi’ch argyhoeddi, darllenwch yr erthygl yma sy’n esbonio pam mae dadansoddi gwefannau yn bwysig i dyfu busnes.

Os ydych chi’n barod i ddechrau arni, y newyddion da yw ei fod yn haws i’w ddefnyddio na fyddech chi’n meddwl. Mae gofyn i chi osod cod ar eich gwefan, ond dim ond copïo a gludo’r cod sydd angen i chi ei wneud, felly gall hyd yn oed dechreuwyr ei wneud eu hunain. Mae Google hefyd wedi creu canllaw cam wrth gam ar sut i ddechrau defnyddio Google Analytics. Mae hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.

Er bod hyn yn gallu ymddangos yn ddryslyd, mae digonedd o wybodaeth ar-lein sy’n esbonio popeth rydych chi angen ei wybod am SEO. Yn fwy na hynny, bydd yn dod yn ail natur i chi cyn bo hir a byddwch chi’n dechrau ychwanegu allweddeiriau i’ch blogiadau heb feddwl am y peth.

Crëwyd y neges wreiddiol gan Monique Holtmanon ar gyfer UK Domain.

Related blog posts

SEO
A ddylwn i allanoli fy SEO neu ei wneud yn fewnol?
Read
Building blocks
11 cyngor ar gyfer creu eich gwefan gyntaf
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read

© Nominet UK 2024