.cymru yw’r dewis naturiol ar gyfer ymgyrch haf Dŵr Cymru

Ar ddiwrnod braf o Haf, penderfynai criw o ffrindiau fynd i nofio yn y gronfa ddŵr lleol am saib o’r haul llethol, ond iddynt byth ddychwelyd o’r dŵr. Dyma’r sefyllfa difrifol sy’n gosod sail i ymgyrch marchnata haf Dŵr Cymru, Un Anadl Olaf, i rhybuddio am peryglon nofio yng nghronfeydd dŵr Cymru.

Gan ddefnyddio fideo 360 ac wrth gysylltu gyda defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol, mae ymgyrch Un Anadl Olaf yn canolbwyntio ar yr effaith marwol gall dŵr rhewllyd ac isgerhyntoedd annisgwyl mewn cronfeydd dŵr cael ar nofwyr. Gyda’r ymgyrch yn ar-lein yn bennaf, roedd sicrhau presenoldeb arlein cryf yn hollbwysig i Dŵr Cymru, gyda’r cyfeiriadau we www.unanadlolaf.cymru ac www.onelastbreath.wales yn chwarae rhan canolog i’r ymgyrch.

“Y bwriad gyda’r ymgyrch hwn oedd targedu gynulleidfa rhwng 15 a 35 oed felly mae o wedi ei ganolbwyntio ar ein cynnwys fideo, digidol. Roedd dewis defnyddio’r parthau .cymru a .wales ar gyfer gwefannau’r ymgyrch yn gwneud synnwyr llwyr, gan eu bod yn hawdd i’w cofio a hawdd i’w darganfod,” meddai Morgan Lloyd, Pennaeth Brand a Marchnata Dŵr Cymru.

“Mae cael gwefannau neilltuol ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg hefyd yn bwysig i ni ac mae .cymru a .wales yn caniatau hynny. Er enghraifft, mae’r cyfeiriad .cymru yn caniatau i ni fanteisio ar ymgyrchoedd digidol cyfrwng Cymraeg eraill, fel Yr Awr Gymraeg ar Twitter, sy’n ehangu cyrhaeddiad ein cynulleidfa.

“Byddem yn parhau i ddefnyddio .cymru a .wales ar gyfer ein hymgyrchoedd yn y dyfodol. Mae ein cynulleidfa yn gwybod yn syth bod y cynnwys yn berthnasol iddyn nhw gan fod y parth yn dangos ei fod yn ymgyrch yng Nghymru, wedi’i gyfeirio atyn nhw.”

Related blog posts

Cyrchfan…dot Cymru – Gwesty pop-up yn mabwysiadu enw parth .cymru i elwa ar gynnydd mewn ymwelwyr
Read
Llyw.cymru a gov.wales ar gael i sefydliadau’r sector gyhoeddus
Read
Darlledwyr, ffermwyr a gwleidyddion Cymru yn trosglwyddo i .cymru a .wales
Read

© Nominet UK 2024