Sut i ddewis cofrestrydd: Pedwar darn o gyngor da  

Yn yr erthygl yma, rydyn ni’n esbonio pwy yw cofrestryddion ac yn rhannu pedwar darn o gyngor da ar sut i ddewis un.

Gadewch i ni ddechrau drwy edrych ar ychydig o ddiffiniadau:

Enwau parth: Rhes o nodau sy’n cael eu defnyddio i adnabod gwefannau ar-lein yw enwau parth, e.e. “eincartrefarlein.cymru”. Mae enwau parth fel .cymru a .wales yn eich helpu i gadw rhan o’r rhyngrwyd ar eich cyfer chi gyda gwefan a chyfeiriadau e-bost proffesiynol.

English Welsh
www.ourhomeonline.wales www.eincartrefarlein.cymru
subdomain is-barth
domain parth
gTLD gTLD

 

Cofrestryddion: Manwerthwyr ar-lein yw cofrestryddion y gallwch brynu enwau parth ganddyn nhw. Fyddwch chi ddim yn berchen yn llwyr ar eich enw parth; yn y bôn, byddwch yn ei ‘rentu’ gan gofrestrydd, ac os ydych chi am barhau i ddefnyddio eich enw parth, bydd angen i chi barhau i’w ‘rentu’ drwy ei adnewyddu gyda nhw.

O ran dewis, mae cannoedd o gofrestryddion sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau, a gallai hyn wneud y broses o ddewis un ymddangos yn eithaf brawychus. Bydd y cofrestrydd iawn i chi yn dibynnu ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch a’r hyn sy’n bwysig i chi, felly mae’n werth cymryd amser i ymchwilio i nifer o opsiynau drwy wahanol ddarparwyr a siarad â nhw i drafod eich anghenion penodol.

Er mwyn eich helpu i greu rhestr fer, rydyn ni wedi rhannu pedwar awgrym isod.

1: Ymchwiliwch i’r opsiynau sydd ar gael a chwiliwch o gwmpas 

Dechreuwch drwy greu rhestr o’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch yn ogystal ag enw parth, gallai hyn fod yn unrhyw beth – o fod eisiau adeiladwr gwefan wedi’i gynnwys (fel y gallech ddefnyddio’ch enw parth i adeiladu gwefan), i allu defnyddio’ch parth ar gyfer cyfeiriadau e-bost hefyd.

Unwaith y byddwch wedi creu’r rhestr, gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i gyfeirio’n ôl ati wrth i chi ddechrau chwilio drwy’r gwahanol becynnau mae cofrestryddion yn eu cynnig. Mae’n bwysig rhoi sylw gofalus i’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y pris ochr yn ochr â’r enw parth, er enghraifft mae rhai cofrestryddion yn cynnig mynediad i adeiladwr gwefan ochr yn ochr â chost y parth, neu gallen nhw gynnwys nifer penodol o gyfeiriadau e-bost fel rhan o gynnig arbennig.

2: Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y print mân 

Rydyn ni eisoes wedi crybwyll ei bod yn gyffredin dod o hyd i becynnau neu gynigion arbennig wrth brynu enw parth. Er y gall hyn gynnig ystod wych o opsiynau, mae’n bwysig eich bod yn darllen y print mân er mwyn gwirio a allai gael effaith ar y pris yn y dyfodol, er enghraifft unwaith y bydd cynnig arbennig wedi dod i ben ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn deall y Telerau ac Amodau ar gyfer y cofrestrydd yn llawn, er mwyn gwybod beth yw eich hawliau o ran canslo neu symud y parth er enghraifft. Dyma rai meysydd pwysig i edrych arnyn:

  • Darllenwch neu gofynnwch i gael gweld y Telerau ac Amodau ar gyfer cofrestru enw parth fel y gallwch wneud yn siŵr eich bod yn deall y contract rydych yn ymrwymo iddo yn llawn
  • Gwiriwch Delerau ac Amodau’r cofrestrydd ddwywaith i sicrhau mai dim ond yn eich enw chi yn benodol y bydd eich enw parth yn cael ei gofrestru ac nid mewn enw arall, fel enw’r cofrestrydd neu drydydd parti
  • Talwch sylw i’ch hawliau i symud eich enw parth a gwasanaethau eraill i gofrestrydd arall, ac a fyddan nhw’n codi tâl am hyn
  • Cadarnhewch y polisi adnewyddu a gwiriwch a fyddai angen i chi adnewyddu eich gwasanaeth lletya (os dewisoch chi’r opsiwn yma gyda’r cofrestrydd) ar yr un pryd
  • Gwiriwch unrhyw Wasanaethau Rhyngrwyd eraill sydd gennych – a oes modd adnewyddu neu ddiwygio rhain ar wahân i’ch enw parth?
  • Treuliwch amser yn chwilio o gwmpas i ddod o hyd i gofrestrydd sy’n cynnig y gwasanaeth neu’r ystod o wasanaethau sydd eu hangen arnoch ac i gael dyfynbrisiau cystadleuol. Cofiwch, nid y pris rhataf yw’r fargen orau bob amser, mae’n syniad da gwirio’ch contract am unrhyw gostau ‘cudd’.

3: Gwrandewch ar adborth  

Yn yr un ffordd ag y byddech chi’n darllen adolygiadau cynnyrch cyn prynu pâr newydd o esgidiau neu cyn dewis garej i roi MOT i’ch car, gwrandewch ar adborth am y cofrestryddion ar eich rhestr fer. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall profiadau pobl eraill wrth gofrestru enw parth gyda’r cofrestryddion, faint o gwsmeriaid hapus sydd ganddyn nhw a lefel y cymorth i gwsmeriaid maen nhw’n ei gynnig.

Mae’n bosib y gallwch chi ddod o hyd i gymwysterau, adolygiadau, geirdaon, gwobrau, achrediadau neu aelodaeth ar eu gwefan. Gallech hefyd chwilio ar y we i ddysgu rhagor am y cwmni, gan gynnwys ar wefannau adolygu trydydd parti a sut maen nhw’n ymateb i gwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol.

4: Gwiriwch lefel y cymorth sy’n cael ei gynnig 

Wrth i chi ymchwilio, fwy na thebyg y dewch chi o hyd i adolygiadau ac adborth ar y gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’n bwysig ystyried lefel y cymorth mae cofrestrydd yn ei gynnig, er enghraifft os yw prynu enw parth a sefydlu gwefan yn newydd i chi, mae’n debygol y byddai’n fanteisiol i chi wybod bod y cofrestrydd rydych chi wedi’i ddewis yn cynnig lefel uchel o gymorth i gwsmeriaid, er enghraifft gwasanaeth sgwrsio gwe cyflym a hawdd sydd ar gael 24/7.

Mae’n bwysig ystyried cymorth technegol ochr yn ochr â’r gwasanaeth i gwsmeriaid a phryd mae’r gwasanaethau ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn cadarnhau a fyddwch chi’n delio â’r cofrestrydd eu hunain neu gwmni trydydd parti heb ei achredu sydd hefyd yn gwerthu enwau parth (sef ailwerthwyr) a sut i gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Yn olaf, cofiwch wirio ble mae’r cofrestrydd wedi’i leoli, yn enwedig os yw’n well gennych fod y cofrestrydd wedi’i leoli yn yr un gylchfa amser neu wlad â chi, neu os bydd anghenion y busnes yn gofyn am hynny.

Os ydych chi’n chwilio am enw parth .cymru neu .wales, gallwch ddefnyddio ein teclyn chwilio defnyddiol isod neu edrych drwy erthyglau cymorth pellach am ddewis enw parth Cymraeg.  

Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read
Beth yw enw parth, a sut galla i brynu un?
Read
Dangoswch eich hunaniaeth gyda chyfeiriad e-bost .cymru neu .wales
Read

© Nominet UK 2024