Annog cefnogwyr i ‘droi’r we yn fwy Cymreig’ yn ystod Euro 2016

Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru’n cael eu hannog i ddangos eu bod yn cefnogi’r tîm yn y Pencampwriaethau Euro trwy gofrestru i ddefnyddio’r enwau parth .cymru a .wales sy’n rhoi cydnabyddiaeth ryngwladol ar amrant i’r wlad ar y rhyngrwyd.

Nawr gall unigolion a sefydliadau sy’n falch o’u treftadaeth Gymreig ddefnyddio’r parthau hyn ar wefannau a’u cyfeiriadau e-bost. Mae dros 20,000 eisoes wedi cofrestru, gan roi’r ddau barth newydd i Gymru yn y Deg Uchaf* o enwau parth lleoliad penodol newydd yn y Gynghrair Ewropeaidd.

Mae’n debyg y bydd Euro 2016 yn arwain at ymchwydd unwaith eto yn y diddordeb mewn cofrestru ar gyfer parth .cymru a .wales, fel y digwyddodd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015 pan oedd 10% o gynnydd yn y cofrestriadau i ‘chwifio’r faner’ dros Gymru ar lein.

Un o’r cyntaf i fabwysiadu’r enw parth Cymreig oedd Cymdeithas Pêl-droed Cymru (www.faw.cymru) ac meddai Jonathan Ford, Prif Weithredwr: “Fe neidion ni at y cyfle o atgyfnerthu’n hunaniaeth Gymreig trwy ddefnyddio’r enwau parth newydd. Roeddwn i eisiau manteisio ar bob cyfle i ddangos enw Cymru a Wales i’r byd gael ei weld.

“Mae cymhwyso ar gyfer ein prif dwrnamaint cyntaf ers 1958 yn bendant wedi rhoi proffil rhyngwladol cryf i Gymru ac rydym ni’n gobeithio y bydd y cefnogwyr yn dilyn hynny trwy gofrestru ar gyfer y parthau .cymru a .wales a helpu Cymru i godi ei phen uwchben y dorf.”

Mae Jayne Kendall, Rheolwr Cynnyrch .cymru a .wales yn annog cefnogwyr i ddefnyddio’r enwau parth. Meddai “Yn nhabl y Gynghrair Ewropeaidd o enwau parth leoliad penodol, rydym yn dal ein tir yn erbyn lleoedd proffil uchel megis Paris, Hambwrg ac ar y blaen i Frwsel a Fienna.

“Mae pobl wedi sylweddoli gwerth amlygu’u hunaniaeth Gymreig arbennig sy’n helpu unigolion a busnesau i sefyll allan ar y we. Cododd llawer iawn o frwdfrydedd ynghylch yr enwau parth newydd ac o gofio am arweiniad Cymdeithas Pêl-droed Cymru, mae eu defnyddio’n ffordd wych o ddangos eich bod yn falch o fod yn Gymro ac o ddathlu’ch cysylltiad â Chymru.”

Ymysg y cefnogwyr pêl-droed sydd wedi cofrestru ar gyfer y parthau .cymru a .wales mae Alun Gruffudd o swyddle: “Rydym yn falch iawn fod Cymru yn rhan o’r Gwpan Ewropeaidd, gan chwarae ysgwydd yn ysgwydd gyda goreuon Ewrop. Mae hefyd yn gyfle unigryw i wneud Cymru’n fwy amlwg ar y rhyngrwyd a hynny drwy ddefnyddio ein parthau unigryw.”

Gwybodaeth bellach oddi wrth Lydia Jones neu Hannah Jones 029 2045 5182 / 07450 929 149

Nodiadau i Olygyddion

Ffynhonell: Gwnaed y dadansoddiad data gan Nominet ar 1 Mehefin 2016. Gan ddefnyddio data a gymerwyd oddi wrth nTLDstats, gwnaed y dadansoddiad gan Nominet, o nifer y cofrestriadau yn rhif 14 yn y Parthau Daearyddol Lefel Uchaf Ewropeaidd. Lle mae gTLDau wedi’u lansio mewn parau (e.e. Wales/Cymru a Cologne/Koeln) cyfunwyd y cofrestriadau. Mae nTDLstats yn casglu dyddiad o’r adroddiadau parth gwreiddiau ar gofrestriadau parth sy’n cael eu logio gyda ICANN, y sefydliad sy’n gyfrifol am gynnal y system Enwau Parth

YNGHYLCH .CYMRU .WALES

Mae creu lle sydd yn wirioneddol Gymreig ar y rhyngrwyd yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud. Rydyn ni’n ei alw ein cartref ar lein. Dyma lle mae’r gymuned Gymreig neu’r rhai sydd yn falch o fod yn rhan o Gymru ar lein yn gallu dangos eu bod yn perthyn i rywbeth arbennig – .cymru a .wales, dau enw parth sy’n cael eu rheoli a’u rhedeg gan Nominet.

Deg Uchaf y Parthau Daearyddol Lefel Uchaf Ewropeaidd

  1. Llundain
  2. Berlin
  3. Bayern
  4. Cologne – yn cyfuno .cologne a .koeln
  5. Amsterdam
  6. Hamburg
  7. Paris
  8. Cymru – yn cyfuno .wales a .cymru
  9. Wien
  10. Yr Alban 

Related blog posts

Digwyddiad Hanesyddol i Gymru ar y Rhyngrwyd: .cymru a .wales ar gael i bawb
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read

© Nominet UK 2024