Cyrchfan…dot Cymru – Gwesty pop-up yn mabwysiadu enw parth .cymru i elwa ar gynnydd mewn ymwelwyr

Wrth i ymweliadau am y dydd a gwariant yng Nghymru gynyddu o 36.6% a 50.9%* yr un o’u cymharu â’r 12 mis blaenorol, un busnes sy’n ceisio elwa ar y cynnydd hwn mewn twristiaid yw Epic Retreats – gwesty pop-up unigryw sy’n bwriadu ymddangos mewn tri lleoliad gwahanol ar draws Cymru – sir Gaerfyrddin, Pen Llŷn a de Eryri – yn ystod haf 2017.

Mae Epic Retreats wedi bod yn defnyddio enw parth .cymru a .wales ers lansio’r wefan ym mis Chwefror eleni, er mwyn helpu i dynnu sylw at eu cyswllt cryf â Chymru. Dyma Llion Pughe, cyfarwyddwr Gorau o Gymru / Best of Wales a phartner ym mhrosiect Epic Retreats i esbonio:

“Prosiect Cymreig yw Epic Retreats, wedi’i leoli yng Nghymru, ac yn dathlu’r gorau o Gymru. Mae cael hunaniaeth Gymreig glir yn bwysig iawn i ni. Roeddem ni eisiau cael enwau parth oedd yn helpu i atgyfnerthu a chryfhau’r brand ac a oedd yn tynnu sylw at y ffaith mai yma yng Nghymru yr ydym ni wedi ein lleoli. Ar y sail hwnnw, .cymru a .wales oedd y dewis naturiol i ni.

“Mae’r diwydiant ymwelwyr yn llewyrchus iawn ac felly mae cael presenoldeb cryf ar lein yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer Epic Retreats, a fydd yn derbyn y rhan fwyaf o archebion ar lein, ac sy’n ceisio denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, a pharatoi ar eu cyfer. Mae’r enw parth .cymru a .wales yn ein helpu ni i fod yn wahanol i gyrchfannau twristiaeth eraill, ac mae’n rhoi hunaniaeth Gymreig gref i’r prosiect, sy’n hawdd iawn i’w adnabod ar yr olwg gyntaf. Mae enwau parth .cymru a .wales yn ateb perffaith i unrhyw un sy’n dymuno ymsefydlu yn y farchnad dwristiaeth yng Nghymru.”

Meddai Adrian Barsby, Cadeirydd Cymdeithas Dwristiaeth Cymru:

“Wrth i fwyd, chwaraeon, tirwedd, diwylliant, antur, lletygarwch a chwedlau Cymru ennill enw da yn rhyngwladol o ran ansawdd uchel, rydym ni’n deall pam y byddai cynifer o fentrau eisiau mabwysiadu enwau parth .cymru a .wales a thrwy hynny i helpu i atgyfnerthu hunaniaeth unigryw Cymru. Mewn marchnad gystadleuol sy’n newid yn gyflym, mae unrhyw fantais farchnata sydd hefyd yn cefnogi Cymru drwy’i amlygu’i hun yn erbyn cystadleuwyr yn rhywbeth i’w groesawu. Mae .cymru a .wales yn adlewyrchu’r hunaniaeth gref, unigryw, a fydd yn helpu i atgyfnerthu enw da Cymru fel cenedl groesawgar sydd hefyd ar flaen y gad o ran technoleg, tra’n dal i gael ei thrwytho mewn mytholeg, hanes, diwylliant ac, wrth gwrs, chwedlau.”

Dyma oedd gan Jayne Kendall yn Nominet, y gofrestrfa sy’n rheoli enwau parth .cymru a .wales i’w ychwanegu:

“Mae twristiaeth Cymru ar frig y don a bydd cael presenoldeb digidol nerthol yn allweddol ar gyfer busnesau sydd eisiau elwa ar y duedd hon er mwyn gyrru masnach o du ymwelwyr. Sicrhau enw parth o Gymru ddylai fod ar frig rhestr unrhyw restr o bethau i’w gwneud ar gyfer pob un sy’n ymrwymedig i farchnata’r wlad. Mae nifer o fusnesau twristiaeth mawr a bach ledled Cymru eisoes wedi cofrestru i ddefnyddio enw .cymru a .wales ac maen nhw’n gweld fod hynny’n dwyn ffrwyth yn barod – felly byddem ni’n bendant yn annog eraill i ddilyn eu harweiniad.” 

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn sicrhau enw parth .cymru / .wales wneud hynny am gyn lleied ag £8 y mis am 12 mis neu ddewis enw parth, e0bost a gwefan am ddim ond £2.49 y mis (dilys am 12 mis). Ewch i www.thename.wales i gael y cynnig rhagarweiniol hwn.

*Ffynhonnell: http://gov.wales/statistics-and-research/great-britain-day-visits-survey/?lang=en

Related blog posts

How to Grow Your Tourism Business Online
Read
Building blocks
11 cyngor ar gyfer creu eich gwefan gyntaf
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read

© Nominet UK 2024