Telerau ac Amodau

 

Telerau defnyddio’r wefan
Mae’r dudalen hon (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atyn nhw) yn nodi’r telerau defnyddio ar gyfer defnyddio ein gwefan. Mae’n ategu telerau ac amodau eraill rydych wedi cytuno iddyn nhw o ran eich defnydd o’n gwefan neu’n gwasanaethau a dylid ei darllen ochr yn ochr â’r rheini. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn dangos eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gadw atyn nhw. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnyddio hyn, dylech chi beidio â defnyddio ein gwefan.

Gwybodaeth amdanon ni
Caiff gwefan ‘www.eincartrefarlein.cymru’ ei rhedeg gan Nominet UK (Rhif Cwmni 3203859), cwmni cyfyngedig drwy warant, a’i gyfeiriad cofrestredig yw Minerva House, Edmund Halley Road, Oxford Science Parc, Rhydychen OX4 4DQ.

Defnyddio ein gwefan
Caniateir mynediad i’n gwefan dros dro, ac rydyn ni’n cadw’r hawl i dynnu’n ôl neu ddiwygio’r gwasanaeth a ddarparwn ar ein gwefan heb rybudd (gweler isod). Fyddwn ni ddim yn atebol os nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am gyfnod penodol, am ba reswm bynnag. O dro i dro, mae’n bosib y byddwn yn cyfyngu ar fynediad i rannau o’n gwefan neu’r wefan gyfan.

Os byddwch yn dewis neu’n cael cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol, a rhaid i chi beidio â’i datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, boed wedi’i ddewis gennych chi neu wedi’i ddyrannu gennym ni, ar unrhyw adeg, os ydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn yn ein barn ni.

Hawliau eiddo deallusol
Ni yw perchennog neu ddeiliad trwydded yr holl hawliau eiddo deallusol yn ein gwefan ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Mae’r gweithiau hynny’n cael eu diogelu gan gytuniadau a chyfreithiau hawlfraint ledled y byd. Cedwir pob hawl o’r fath. Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.

Gallwch argraffu un copi, a gallwch lawrlwytho detholiadau o unrhyw dudalen(nau) o’n gwefan er gwybodaeth bersonol i chi a gallwch dynnu sylw eraill yn eich sefydliad at ddeunydd a bostiwyd ar ein gwefan. Rhaid i chi beidio ag addasu’r copïau papur neu ddigidol o ddeunyddiau rydych wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, fideo neu sain nac unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun sy’n cyd-fynd â nhw. Rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodir) fel awduron y deunydd sydd ar ein gwefan bob amser.

Os byddwch yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefan gan dorri’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau a wnaethoch.

Dibyniaeth ar wybodaeth a bostiwyd
Ni fwriedir i sylwadau a deunyddiau eraill a gaiff eu postio ar ein gwefan fod yn gyfystyr â chyngor y dylid dibynnu arno. Rydyn ni felly’n ymwadu â phob atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth a roddir ar ddeunyddiau o’r fath gan unrhyw ymwelydd â’n gwefan, neu gan unrhyw un a allai gael gwybod am unrhyw ran o’i chynnwys.

Ein hatebolrwydd
Darperir y deunydd ar ein gwefan heb unrhyw warantau, amodau na sicrwydd o ran ei gywirdeb. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydyn ni, Nominet UK, ac unrhyw drydydd parti sy’n gysylltiedig â ni yn eithrio’n benodol:

Pob amod, sicrwydd a thelerau eraill a allai fel arall fod yn ymhlyg drwy statud, cyfraith gwlad neu gyfraith ecwiti.

Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir i unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â’n gwefan neu mewn cysylltiad â’r defnydd, yr anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein gwefan, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â hi ac unrhyw ddeunyddiau sydd wedi’u postio arni.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, na’n hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio ynghylch mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na chyfyngu arno o dan gyfraith berthnasol.

Gwybodaeth amdanoch chi a’ch ymweliadau â’n gwefan
Rydyn ni’n prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â’n polisi preifatrwydd. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i brosesu o’r fath ac rydych yn rhoi sicrwydd bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.

Dolenni at ein gwefan
Gallwch greu dolenni at ein hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno, ond rhaid i chi beidio â chreu dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni lle nad oes un yn bodoli. Rhaid i chi beidio â chreu dolen o unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.

Ni ddylai ein gwefan gael ei fframio ar unrhyw safle arall. Rydyn ni’n cadw’r hawl i dynnu caniatâd i greu dolenni sy’n cysylltu â’n gwefan yn ôl heb rybudd.

Dolenni o’n gwefan
Pan fydd ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, caiff y dolenni hyn eu darparu er gwybodaeth yn unig. Does dim rheolaeth gennym dros gynnwys y gwefannau neu’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o’ch defnydd ohonynt.

Cyfraith ac awdurdodaeth berthnasol
Llysoedd Cymru a Lloegr sydd â’r unig awdurdodaeth dros unrhyw hawliad sy’n deillio o ymweliad â’n gwefan, neu sy’n gysylltiedig â hynny, er ein bod yn cadw’r hawl i ddod ag achos yn eich erbyn am dorri’r amodau hyn yn eich gwlad breswyl neu wlad berthnasol arall.

Bydd y telerau defnyddio hyn, ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio ohonynt neu sy’n ymwneud â nhw neu eu pwnc neu ffurfiad (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau di-gontract) yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

Amrywiadau
Gallwn adolygu’r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio’r dudalen hon. Mae disgwyl i chi wirio’r dudalen hon bob tro y byddwch yn cyrchu’r wefan er mwyn nodi unrhyw newidiadau a wnaed, gan eu bod yn eich rhwymo. Gall rhai o’r darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y telerau defnyddio hyn gael eu disodli hefyd gan ddarpariaethau neu hysbysiadau sydd wedi’u cyhoeddi yn rhywle arall ar ein gwefan.

© Nominet UK 2024