Hysbysiad Preifatrwydd

CYFLWYNIAD

Croeso i hysbysiad preifatrwydd Nominet.

Rydym yn parchu eich preifatrwydd ac yn ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Bydd yr hysbysiad hwn yn:

  1. Rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol pan rydych chi’n ymweld â’n gwefan (ni waeth ble rydych yn ymweld â hi) a dweud wrthoch chi am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu;
  2. Amlinellu sut rydym yn defnyddio data cofrestru ar gyfer enwau parth yr ydym yn gyfrifol am eu gweinyddu; ac
  3. Esbonio sut rydym yn dadansoddi sut y mae enwau parth .UK yn cael eu defnyddio.

1. GWYBODAETH BWYSIG A PHWY YDYM NI

Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw darparu gwybodaeth am sut mae Nominet yn casglu ac yn prosesu data.

Ni fwriedir i’r wefan hon gael ei defnyddio gan blant, ac nid ydym o fwriad yn casglu data mewn perthynas â phlant.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw bolisi preifatrwydd arall neu hysbysiad prosesu teg y gallwn ei ddarparu ar achlysuron penodol pan fyddwn yn casglu neu’n prosesu data personol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ychwanegu at hysbysiadau eraill, ac ni fwriedir iddo eu disodli.

RHEOLYDD  

Mae Nominet yn cynnwys Nominet UK a’i is-gwmnïau: Nominet Limited, Nominet US, Inc. a Nominet Registrar Services Limited (“Nominet Group”). Dosberthir yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar ran Nominet Group, felly pan fyddwn yn sôn am “Nominet”, “ni” neu “ein”, byddwn yn cyfeirio at y cwmni perthnasol o fewn Nominet Group sy’n gyfrifol am brosesu eich data. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa endid fydd yn rheoli eich data pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu wasanaeth gennym. Nominet UK yw’r rheolydd, ac mae’n gyfrifol am y wefan hon.

Rydym wedi penodi swyddog diogelu data sy’n gyfrifol am ddelio â chwestiynau’n ymwneud â pholisïau preifatrwydd Nominet. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion isod.

MANYLION CYSWLLT  

Nominet UK, cwmni cyfyngedig trwy warant yn y DU, rhif cwmni 3203859, swyddfa gofrestredig Minerva House, Edmund Halley Road, Oxford Science Park, Oxford OX4 4DQ.

Cyfeiriad e-bost: [email protected]

Mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar unrhyw adeg, sef awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi cyfle i ddelio â’ch pryderon cyn i chi fynd at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, felly a fyddech cystal â chysylltu â ni yn y lle cyntaf.

NEWIDIADAU I’R HYSBYSIAD PREIFATRWYDD A’CH DYLETSWYDD I ROI GWYBOD I NI AM UNRHYW NEWIDIADAU   

Diweddarwyd y fersiwn hon ddiwethaf ar 25 Mai 2018. Cedwir yr hawl i wneud rhagor o newidiadau ar unrhyw adeg heb roi gwybod i chi.

Mae’n bwysig bod y data personol sydd gennym amdanoch chi yn gywir ac yn gyfredol. Dylech roi gwybod i ni os bydd eich data personol yn newid yn ystod eich perthynas â ni.

DOLENNI TRYDYDD PARTI  

Efallai bydd y wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau, ategion a rhaglenni trydydd parti. Efallai bydd clicio ar y dolenni neu alluogi’r cysylltiadau hyn yn caniatáu i drydydd parti gasglu neu rannu data amdanoch. Nid ydym yn rheoli’r gwefannau trydydd parti hyn, ac nid ydym yn gyfrifol amdanynt. Pan fyddwch yn gadael ein gwefan, rydym yn eich annog chi i ddarllen hysbysiad preifatrwydd a thelerau defnyddio pob gwefan yr ydych yn ei defnyddio.

  1. Y DATA YR YDYM YN EI GASGLU AMDANOCH

Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn sy’n galluogi i’r person hwnnw gael ei adnabod.

Efallai byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol, yr ydym wedi eu grwpio fel a ganlyn:

  • Mae Data Hunaniaeth yn cynnwys enw cyntaf, enw cyn priodi, cyfenw, enw defnyddiwr neu ddyfais adnabod arall, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhywedd.
  • Mae Data Cyswllt yn cynnwys cyfeiriad bilio, cyfeiriad dosbarthu, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.
  • Mae Data Ariannol yn cynnwys manylion eich cerdyn talu a’ch cyfrif banc.
  • Mae Data Trafodiadau yn cynnwys manylion am daliadau i chi a gennych chi, a manylion eraill am gynnyrch a gwasanaethau yr ydych wedi’u prynu gennym.
  • Mae Data Technegol yn cynnwys cyfeiriad protocol y rhyngrwyd (IP), eich data mewngofnodi, math a fersiwn eich porwr, lleoliad a gosodiadau eich cylchfa amser, mathau a fersiynau ategion eich porwr, llwyfan a system weithredu, a mathau eraill o dechnoleg sydd ar y dyfeisiau a ddefnyddiwch i gael mynediad at y wefan hon.
  • Mae Data Proffil yn cynnwys eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair, pethau a brynwyd neu a archebwyd gennych, eich diddordebau, eich dewisiadau, postiadau a barn a ysgrifennwyd gennych yn y fforwm i aelodau, adborth ac ymatebion i arolygon.
  • Mae Data Defnyddio yn cynnwys gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan, ein cynnyrch a’n gwasanaethau.
  • Mae Data Marchnata a Chyfathrebu’n cynnwys eich dewisiadau o ran derbyn deunydd marchnata gennym ni a’n trydydd partïon, a’ch dewisiadau cyfathrebu.

Hefyd, rydym yn casglu, defnyddio ac yn rhannu data demograffeg neu ystadegol wedi’i gyfuno. Efallai bydd data wedi’i gyfuno’n dod o’ch data personol, ond nid yw’n cael ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith, gan nad yw’r data hwn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai byddwn yn cyfuno eich Data Defnyddio i gyfrifo canran y defnyddwyr sy’n defnyddio nodwedd benodol ar y wefan. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu data wedi’i gyfuno gyda’ch data personol mewn ffordd sy’n datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, byddwn yn trin y data wedi’i gyfuno fel data personol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Nid ydym yn casglu unrhyw gategorïau arbennig o ddata personol (mae hyn yn cynnwys manylion am hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth am ddata biometreg, geneteg ac iechyd). Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth am euogfarnau a throseddau chwaith.

OS NAD YDYCH YN DARPARU DATA PERSONOL

Os bydd angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu dan delerau contract sydd gennym ni gyda chi, ac nid ydych yn darparu’r data hwnnw pan fyddwn yn gofyn amdano, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni’r contract sydd gennym gyda chi, neu yr ydym yn ceisio ei sefydlu gyda chi (er enghraifft, parhau i ddarparu cofrestriad enw parth i chi). Efallai bydd angen i ni derfynu eich contract, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi ar y pryd os bydd hyn yn digwydd.

  1. SUT CESGLIR EICH DATA PERSONOL

Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau o gasglu data gennych ac amdanoch gan gynnwys y rhain:

  • Cyswllt uniongyrchol. Efallai byddwch yn rhoi eich Data Adnabod, Cyswllt ac Ariannol i ni trwy lenwi ffurflenni neu gysylltu â ni drwy’r post, dros y ffôn, dros e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol fyddwch yn ei ddarparu pan fyddwch yn:
  • Cofrestru enw parth gyda ni, sy’n cynnwys, fel darpariaeth ddiofyn, creu cyfrif gyda ni ar gyfer gwasanaethau ar-lein lle gallwch reoli eich cofrestriadau parth;
  • Cysylltu â ni i gadarnhau eich Data Cyswllt mewn perthynas â chofrestru enw parth neu os byddwch yn cyflwyno cais i ni dan ein polisïau mynediad at ddata
  • Ymgeisio am swydd gyda ni;
  • Tanysgrifio i’n hysbysiadau newyddion, cyfathrebu marchnata a’r fforwm i aelodau;
  • Cymryd rhan mewn cystadleuaeth, deunydd hyrwyddo neu arolwg; neu
  • Roi adborth i ni.
  • Technoleg neu gyswllt wedi’u hawtomeiddio. Wrth i chi ddefnyddio ein gwefan, efallai byddwn yn casglu Data Technegol yn awtomatig am eich cyfarpar, gweithredoedd pori a’ch patrymau. Rydym yn casglu’r data personol hwn trwy ddefnyddio cwcis, cofnodion gweinyddion a thechnolegau eraill tebyg. Hefyd, efallai byddwn yn derbyn Data Technegol amdanoch os byddwch yn ymweld â gwefannau eraill sy’n defnyddio ein cwcis. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.
  • Trydydd parti neu ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus. Efallai byddwn yn derbyn data personol amdanoch gan drydydd partïon amrywiol a ffynonellau cyhoeddus fel a ganlyn:
  • Gan gofrestrydd neu ailwerthwr enwau parth wedi’i awdurdodi, wrth greu, adnewyddu neu addasu unrhyw gofrestriad enw parth yr ydym yn gofrestrfa ar ei gyfer.
  • Data dilysu enw parth trwy ddarparwyr trydydd parti neu setiau data sydd ar gael yn gyhoeddus, gan gynnwys Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestr Etholwyr.
  • Data Technegol gan y partïon canlynol:

(a)  darparwyr dadansoddeg fel Google;

(b)  rhwydweithiau hysbysebu fel LinkedIn a Facebook; a

(c)  darparwyr gwybodaeth chwilio fel Chrome, Bing a Yahoo.

  • Data Cyswllt, Ariannol a Thrafodion gan ddarparwyr gwasanaethau cyflenwi, talu a thechnegol.
  1. SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL

Byddwn yn defnyddio eich data personol pan fydd y gyfraith yn ein caniatáu i wneud hynny yn unig. Fel arfer, byddwn yn defnyddio eich data personol yn yr achosion canlynol:

  • Os bydd angen i ni gyflawni’r contract yr ydym ar fin ei ddechrau, neu yr ydym wedi’i ddechrau, gyda chi.
  • Os bydd yn angenrheidiol ar gyfer ein diddordebau cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac nid yw eich buddion a’ch hawliau sylfaenol yn mynd y tu hwnt i’r diddordebau hynny.
  • Os bydd angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol.

Ar y cyfan, nid ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol ac eithrio os bydd angen anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gan drydydd parti atoch mewn neges e-bost neu neges destun. Mae gennych hawl i dynnu eich cydsyniad marchnata yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni.

RHESYMAU DROS DDEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL   

Rydym wedi nodi disgrifiadau o’r holl ffyrdd yr ydym yn bwriadu defnyddio eich data personol yn y tabl isod, a’r seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Hefyd, rydym wedi amlygu beth yw ein diddordebau cyfreithlon, lle bo’n briodol.

Sylwer efallai y byddwn yn prosesu eich data personol ar fwy nag un sail gyfreithiol, gan ddibynnu ar y diben penodol yr ydym yn defnyddio eich data ar ei gyfer. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes angen manylion arnoch am y sail gyfreithiol benodol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol, lle mae mwy nag un sail wedi cael ei nodi yn y tabl isod.

Pwrpas/Gweithgaredd

 

Math o ddata

 

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu, gan gynnwys sail y diddordeb cyfreithlon
Eich cofrestru fel cwsmer newydd

 

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

 

Cyflawni contract gyda chi
Recriwtio (a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

 

Angenrheidiol ar gyfer ein diddordebau cyfreithlon (gwerthuso eich cais)
Prosesu a dosbarthu eich archeb, gan gynnwys:

(a) Rheoli taliadau, ffioedd a chostau

(b) Casglu ac adfer arian sy’n ddyledus i ni

 

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Ariannol

(ch) Trafodiadau

(d) Marchnata a Chyfathrebu

 

(a) Cyflawni contract gyda chi

(b) Angenrheidiol ar gyfer ein diddordebau cyfreithlon (derbyn taliadau sy’n ddyledus i ni)

 

Rheoli ein perthynas gyda chi, gan gynnwys:

(a) Rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n telerau neu ein polisi preifatrwydd

(b) Gofyn i chi adael adolygiad neu lenwi arolwg

 

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Proffil

(ch) Marchnata a Chyfathrebu

 

(a) Cyflawni contract gyda chi

(b) Angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol

(c) Angenrheidiol ar gyfer ein diddordebau cyfreithlon (diweddaru ein cofnodion ac astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch/gwasanaethau)

 

Eich galluogi i gymryd rhan mewn cystadlaethau neu lenwi arolwg

 

(a) Hunaniaeth

(b) Cysylltu

(c) Proffil

(d) Defnyddio

(e) Marchnata a Chyfathrebu

 

(a) Cyflawni contract gyda chi

(b) Angenrheidiol ar gyfer ein diddordebau cyfreithlon (astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch/gwasanaethau, eu datblygu nhw a thyfu ein busnes)

 

Gweinyddu a diogelu ein busnes a’r wefan hon (gan gynnwys canfod ateb i broblemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cymorth, adrodd ar ddata a’i lywyddu)

 

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Technegol

 

(a) Angenrheidiol ar gyfer ein diddordebau cyfreithlon (gweithredu’r busnes, darparu gwasanaethau TG a gweinyddu, diogelwch rhwydwaith, atal twyll ac yng nghyd-destun aildrefnu busnes neu ailstrwythuro’r grŵp)

(b) Angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol

 

Cyflwyno hysbysebion a chynnwys perthnasol i chi ar y wefan a mesur neu ddeall pa mor effeithiol yw’r hysbysebion yr ydym yn eu cyflwyno i chi (a) Hunaniaeth

(b) Cysylltu

(c) Proffil

(ch) Defnyddio

(d) Marchnata a Chyfathrebu

(dd) Technegol

 

Angenrheidiol ar gyfer ein diddordebau cyfreithlon (astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch/ gwasanaethau, eu datblygu, tyfu ein busnes a llywio ein strategaeth farchnata)

 

Defnyddio dadansoddeg data i wella ein gwefan, cynnyrch/ gwasanaethau, marchnata, perthnasoedd â chwsmeriaid a’u profiadau (a) Technegol

(b) Defnyddio

 

Angenrheidiol ar gyfer ein diddordebau cyfreithlon (diffinio mathau o gwsmeriaid ar gyfer ein cynnyrch a’n gwasanaethau, sicrhau bod ein gwefan wedi’i ddiweddaru ac yn berthnasol, datblygu ein busnes a llywio ein strategaeth marchnata)

 

Gwneud argymhellion ac awgrymiadau i chi am nwyddau neu wasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi (a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Technegol

(ch) Defnyddio

(d) Proffil

 

Angenrheidiol ar gyfer ein diddordebau cyfreithlon (i ddatblygu ein cynnyrch/gwasanaethau a thyfu ein busnes)

 

MARCHNATA

Rydym yn ymdrechu i roi dewisiadau i chi ynghylch ffyrdd penodol o ddefnyddio data personol, yn enwedig o ran marchnata a hysbysebu.

CYNIGION HYRWYDDO GENNYM  

Efallai y byddwn yn defnyddio eich Data Hunaniaeth, Cyswllt, Technegol, Defnyddio a Phroffil i ffurfio barn am yr hyn yr ydym yn meddwl yr hoffech ei weld, neu’r hyn sydd ei angen arnoch, neu beth all fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut rydym yn penderfynu pa gynnyrch, gwasanaethau a chynigion a all fod yn berthnasol i chi (yr enw am hyn yw marchnata).

Byddwch yn derbyn cyfathrebu marchnata gennym os ydych wedi gofyn am wybodaeth neu wedi prynu nwyddau neu wasanaethau gennym, neu os ydych wedi darparu eich manylion i ni wrth wneud cais am gystadleuaeth neu gofrestru ar gyfer hyrwyddo, ac, ym mhob achos, nid ydych wedi optio allan o dderbyn y deunydd marchnata hwnnw.

MARCHNATA TRYDYDD PARTI   

Byddwn yn cael cydsyniad clir gennych o ran optio i mewn cyn rhannu eich data personol ag unrhyw gwmni y tu allan i grŵp cwmnïau Nominet at ddibenion marchnata.

OPTIO ALLAN  

Gallwch ofyn i ni neu drydydd parti roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch ar unrhyw adeg trwy ddilyn y dolenni optio allan o fewn unrhyw neges farchnata a anfonir atoch, neu trwy gysylltu â ni ar unrhyw adeg.

Os byddwch yn optio allan o dderbyn y negeseuon marchnata hyn, ni fydd hyn yn berthnasol i’r data personol a ddarparwyd i ni o ganlyniad i gofrestru enw parth mewn cofrestrfa yr ydym yn ei weinyddu.

CYFEIRIADAU IP A CHWCIS   

Rydym yn defnyddio cwcis (ffeiliau bach a osodir ar eich cyfrifiadur) er mwyn gwella perfformiad ein gwefannau, y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig, ac i ddarparu hysbysebion wedi’u teilwra. Yn benodol, rydym yn defnyddio cynnyrch a nodweddion dadansoddeg Google, gan gynnwys:

  • Ail-farchnata
  • Adrodd ar Argraff Rhwydwaith Arddangos
  • Adrodd ar Ddiddordeb a Demograffeg

Hefyd, rydym yn defnyddio cwcis gan y gwasanaethau canlynol i olrhain dadansoddeg ein gwefannau ac i ddarparu hysbysebion wedi’u teilwra:

  • Facebook
  • Twitter
  • HotJar
  • HubSpot

Hefyd, rydym yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, fel cyfeiriad IP, system weithredu a’r math o borwr, ac efallai byddwn hefyd yn olrhain pa dudalennau ar ein gwefan yr ydych yn ymweld â nhw a pha mor hir ydych chi’n treulio ar bob tudalen.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gan gynnwys gwybodaeth am sut i reoli pa gwcis sy’n cael eu gosod, gan gynnwys optio allan, trwy ddarllen ein polisi cwcis.

DADANSODDI SUT MAE ENWAU PARTH .UK YN CAEL EU DEFNYDDIO

I’n galluogi i fonitro sut mae parthau .uk yn cael eu defnyddio, mae Nominet yn casglu data yn rheolaidd ynghylch p’un a yw enwau parth .uk yn cael eu defnyddio, lle maen nhw’n cael eu llywyddu, p’un a ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer e-bost a ph’un a oes gwefan yno. Yn rhan o hyn, rydym yn casglu gwybodaeth am dudalen lanio a thudalennau Amdanom Ni neu Cysylltu â Ni ar eich gwefan, i’n galluogi i gategoreiddio’r math o wefan (e.e. blog, tudalen barcio ac ati). Hefyd, efallai byddwn yn gwirio p’un a oes gennych dystysgrif SSL a ph’un a oes enw parth unfath mewn parth lefel uchaf wahanol (e.e. .com), ac yn casglu gwybodaeth debyg amdanyn nhw i weld sut maen nhw’n wahanol i’r enw parth .uk. Hefyd, rydym yn casglu gwybodaeth ynghylch pa systemau rheoli cynnwys y mae gwefannau’n eu defnyddio, ynghyd â nifer y fersiynau mewn ymgais i amlygu gwendidau diogelwch. Defnyddir y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu er mwyn helpu Nominet i ddeall y farchnad .uk yn well, amlygu gwendidau diogelwch ac amlygu newidiadau dros amser. I gadw lled band mor isel â phosibl, byddwn yn cyfyngu ar faint o weithiau y byddwn yn ymweld â gwefannau sy’n defnyddio’r un cyfeiriad IP. Mae unrhyw wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i helpu Nominet i ennill gwell dealltwriaeth o sut y defnyddir parthau .uk gan bobl sydd wedi cofrestru.

Os hoffech chi, gallwch ein hatal rhag casglu data am eich gwefan(nau) trwy ychwanegu’r canlynol at ffeil “robots.txt”:

User-agent: http://www.nominet.org.uk/privacypolicy
Disallow: /

Mae rhagor o wybodaeth am ffeiliau “robots.txt” yma.

NEWID DIBEN   

Byddwn yn defnyddio eich data personol am y rheswm y casglwyd ef ar ei gyfer yn unig, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol bod angen i ni ei ddefnyddio am reswm arall, a bod y rheswm hwnnw’n cyd-fynd â’r diben gwreiddiol. Os ydych yn dymuno cael esboniad ynghylch sut mae’r rheswm prosesu newydd yn cyd-fynd â’r pwrpas gwreiddiol, cysylltwch â ni.

Os oes angen i ni ddefnyddio eich data personol at ddiben nad yw’n gysylltiedig, byddwn yn rhoi gwybod i chi a byddwn yn esbonio’r sail gyfreithiol sy’n ein galluogi ni i wneud hynny.

Efallai y byddwn yn prosesu eich data personol heb i chi wybod na chydsynio, gan gydymffurfio â’r rheolau uchod, os bydd hyn yn cael ei orchymyn neu ei ganiatáu gan y gyfraith.

  1. DATGELU EICH DATA PERSONOL

Efallai byddwn yn datgelu eich data personol yn unol â’n polisi rhyddhau data.

Er mwyn cyflawni’r dibenion a nodir yn y tabl ym mharagraff 4 uchod, efallai byddwn yn rhannu eich data personol gyda thrydydd partïon mewnol ac allanol. Gofynnwn i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain, ac rydym yn eu caniatáu i brosesu eich data personol at ddibenion penodedig yn unig, ac yn unol â’n cyfarwyddiadau.

Hefyd, byddwn yn rhannu eich data personol pan fydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny.

  1. TROSGLWYDDO’N RHYNGWLADOL

Efallai byddwn yn trosglwyddo ac yn storio data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Hefyd, efallai y caiff ei brosesu gan staff y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy’n gweithio i ni neu un o’n cyflenwyr. Efallai bydd yr aelodau staff hyn ynghlwm â phrosesu neu gyflawni ceisiadau, a darparu gwasanaethau cymorth, ymysg pethau eraill. Byddwn yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod y data personol yn cael ei drin mewn ffordd gyfreithlon a diogel, ac yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

  1. DIOGELWCH DATA

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu ei gyrraedd heb awdurdod, ei addasu neu ei ddatgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i weithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill y mae angen iddyn nhw ei wybod fel rhan o’u busnes. Byddant yn prosesu eich data personol yn ôl ein cyfarwyddiadau ni yn unig, ac mae ganddyn nhw ddyletswydd i’w gadw’n gyfrinachol.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw honiadau o dor diogelwch data personol, a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am doriad lle mae gennym hawl gyfreithiol i wneud hynny.

  1. CADW DATA

AM BA MOR HIR Y BYDDWCH YN CADW FY NATA PERSONOL? 

Byddwn yn cadw eich data personol am y cyfnod angenrheidiol yn unig er mwyn cyflawni’r dibenion y casglwyd ef ar ei gyfer, gan gynnwys dibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

I bennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried cyfanswm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed os defnyddir neu datgelir eich data personol heb awdurdod, y rheswm dros brosesu eich data personol, a ph’un a allwn gyflawni’r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

  1. EICH HAWLIAU CYFREITHIOL

Mae gennych hawl i:

  • Ofyn am fynediad at eich data personol (sy’n cael ei alw’n aml yn “gais mynediad gan wrthrych y data”). Mae hyn yn eich caniatáu i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch a gwirio ein bod yn ei brosesu mewn ffordd gyfreithlon.
  • Gofyn i ni gywiro’r data personol sydd gennym ni amdanoch. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym ni, ond efallai bydd angen i ni gadarnhau cywirdeb y data newydd rydych yn ei ddarparu i ni.
  • Gofyn i ni ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu data personol os nad oes rheswm da dros barhau i’w brosesu. Hefyd, mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol os rydych wedi llwyddo i arfer eich hawl i wrthwynebu’r prosesu (gweler isod), mewn achosion lle rydym wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon neu mae angen i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith leol. Sylwer, fodd bynnag, efallai na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol y byddwn yn rhoi gwybod i chi amdanynt, os yn berthnasol, ar adeg eich cais.
  • Gwrthwynebu prosesu eich data personol lle byddwn yn dibynnu ar ddiddordeb cyfreithlon (neu ddiddordeb trydydd parti), ac mae rhywbeth am eich sefyllfa yn gwneud i chi eisiau gwrthwynebu i brosesu ar y sail hon, gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Hefyd, mae gennych hawl i wrthwynebu os byddwn yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai byddwn yn dangos bod gennym sail gyfreithlon resymol dros brosesu eich gwybodaeth, sy’n goresgyn eich hawliau a’ch rhyddid.
  • Gofyn i ni gyfyngu prosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich data personol yn yr achosion canlynol: (a) os ydych chi eisiau i ni gadarnhau cywirdeb y data; (b) os byddwn yn defnyddio’r data mewn ffordd anghyfreithlon, ond nid ydych chi eisiau i ni ei ddileu; (c) os byddwch eisiau i ni gofnodi’r data, hyd yn oed os nad oes ei angen arnom, oherwydd eich bod chi eisiau sefydlu, arddel neu amddiffyn honiadau cyfreithiol; neu (d) rydych wedi gwrthwynebu ein defnydd o’r data, ond mae angen i ni gadarnhau p’un a oes gennym brif sail gyfreithiol dros ei ddefnyddio.
  • Gofyn i’ch data personol gael ei drosglwyddo i chi neu drydydd parti. Byddwn yn darparu eich data personol i chi, neu drydydd parti o’ch dewis, mewn fformat strwythuredig a ddefnyddir yn gyffredin y mae modd ei ddarllen ar beiriant. Sylwer bod yr hawl hwn yn berthnasol i wybodaeth wedi’i awtomeiddio yn unig, y darparoch gydsyniad i ni ei ddefnyddio yn wreiddiol, neu lle defnyddiom y wybodaeth i gyflawni contract gyda chi.
  • Tynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg, os byddwn yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wneir cyn i chi dynnu eich cydsyniad yn ôl. Os byddwch yn tynnu eich cydsyniad yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu cynnyrch neu wasanaethau penodol i chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn pan fyddwch yn tynnu eich cydsyniad yn ôl.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.

NID OES ANGEN FFI FEL ARFER  

Ni fydd angen i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (nac i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai byddwn yn codi ffi resymol os bydd eich cais yn amlwg heb unrhyw sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Neu, efallai byddwn yn gwrthod cydymffurfio â’ch cais dan yr amgylchiadau hyn.

BETH SYDD ANGEN I CHI EI ROI I NI  

Efallai bydd angen i ni ofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni i’n helpu i gadarnhau eich hunaniaeth ac i sicrhau bod gennych hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw hawliau eraill sydd gennych). Dyma fesur diogelwch sy’n sicrhau nad yw eich data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw un nad oes ganddo hawl i’w dderbyn. Hefyd, efallai byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais i gyflymu ein hymateb.

CYFYNGIAD AMSER I YMATEB  

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais rhesymol o fewn un mis. O bryd i’w gilydd, efallai byddwn yn treulio dros fis os bydd eich cais yn arbennig o gymhleth neu os byddwch wedi gwneud sawl cais. Yn yr achos hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi a’ch diweddaru.

 

Adolygwyd ddiwethaf Rhagfyr 2023. Adolygwyd ddiwethaf Mawrth 2024.

© Nominet UK 2024