Yr hyn mae Instagram Explore yn ei olygu, pam bod arnoch ei angen, a sut y gallwch gael eich cynnwys arno

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod Instagram yn rhwydwaith cymdeithasol hynod boblogaidd, mewn gwirionedd mae wedi cofrestru  nifer ragorol o 800 miliwn o ddefnyddwyr misol a chronfa ffyddlon drawiadol o 500 miliwn o bobl sy’n mewngofnodi i’w cyfrifon bob dydd. Ymhellach, dyma’r ail rwydwaith mwyaf ymgysylltiedig ar ôl Facebook, ac mae defnyddwyr Instagram yn rhannu nifer enfawr o 80 miliwn o ffotograffau y dydd.

Mae ystadegau ymgysylltu a chyrraedd fel hyn yn freuddwyd i farchnadwr, ond sut allwch chi hyd yn oed ddechrau sicrhau mai pyst eich busnes chi yw’r hyn sy’n sefyll allan ar y llwyfan prysur a chystadleuol?

Beth yn union yw Instagram Explore?

Mae’r dudalen Explore yn un o brif offer Instagram ac mae’n nodwedd bwerus a all helpu busnesau i gael llawer o sylw ag ychydig iawn o adnoddau.

Lleolir yr ardal hon o’r llwyfan cymdeithasol ychydig o dan y bar chwilio ac mae’n caniatáu i ddefnyddwyr Instagram ddarganfod pyst a chyfrifon newydd y gallent eu hoffi yn seiliedig ar eu gweithgareddau Instagram blaenorol. Mae hyn yn golygu y bydd yn edrych yn wahanol i bob defnyddiwr, gan ei fod yn seiliedig ar ba byst rydych chi wedi eu hoffi, a’r ffotos a gafodd eu hoffi gan bobl y mae eu cynnwys wedi’i hoffi gennych. Ydy, mae hyn yn swnio’n dipyn o lond geg, ond yn y bôn mae Explore fel rhwydwaith bach o ddefnyddwyr a chyfrifon sy’n postio ffotos a chynnwys sy’n berthnasol i chi.

Mae’r ffaith, pan fydd eich dilynwyr yn hoffi’ch post y bydd yn dangos yn nhudalen Explore eu dilynwyr, yn un o’r agweddau mwyaf ar y nodwedd hon. Mae’n ffordd werthfawr o roi hwb i lwyddiant eich busnes ar y llwyfan cymdeithasol, diolch i’r sylw cynyddol a mwy o gyfleoedd i gyrraedd cwsmeriaid newydd.

Pam mae angen i chi gael eich cynnwys ar Instagram Explore

Rydym wedi sôn am rai o’r buddion eisoes, ond gall ymddangos ar y dudalen Instagram Explore gynnig llu o fanteision i fusnesau bach, gan gynnwys:

  • Help i gael mwy o bobl i hoffi pyst
  • Mae’n adeiladu ymwybyddiaeth brand trwy ddangos eich busnes i gynulleidfa newydd gyfan
  • Help i gaffael cwsmeriaid newydd
  • Oherwydd bod yr algorithm yn seiliedig ar ddiddordeb unigol, fe’ch arweinir i gynulleidfa dargededig, gan roi mwy o sylw i chi gyda’ch cynulleidfa darged.
  • Nid yw’n costio unrhyw arian

Sut i gael eich cynnwys ar Instagram Explore

Caiff y pyst a gynhwysir ar y dudalen Explore eu dewis yn awtomatig yn seiliedig ar ddata ynghylch pwy mae defnyddwyr yn eu dilyn a’r math o gynnwys maent yn ymgysylltu ag ef. Er y bydd yr algorithmau’n pennu pwy sy’n gweld beth a phryd, mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i ddylanwadu ar hyn. Byddwn ni’n rhedeg trwy rai o’r rhain isod.

Ymgysylltwch â chyfrifon sydd â llawer o ddilynwyr

Dull effeithiol o gael eich cynnwys ar y dudalen Explore yw cael cyfrif perthnasol sydd â llawer o ddilynwyr i hoffi neu roi sylwadau ar un o’ch pyst.

Er enghraifft, os ydych chi’n lanlwytho ffoto y mae Croeso Cymru yn ei hoffi, bydd y ffoto hwnnw wedyn yn ymddangos ar dudalen Explore pobl sydd wedi hoffi neu wedi rhoi sylwadau ar byst Croeso Cymru. Hefyd, gyda thros 75,000 o ddilynwyr, gallai hyn gael effaith fawr ar nifer y defnyddwyr sy’n gweld ac yn hoffi eich cynnwys.

Yr ‘effaith rwydwaith’ hon yw’r hyn sy’n golygu bod y cynnwys yn mynd yn feirysol, oherwydd po fwyaf o sylwadau a chliciau hoffi rydych chi’n eu cael, po fwyaf fydd y cynnwys yn ymddangos ar dudalen Explore eu dilynwyr.

Ond sut allwch chi ddenu sylw’r brandiau mawr hyn? Dull da yw tagio’r cwmni neu’r bobl rydych chi’n sôn amdanynt mewn post perthnasol. Efallai eu bod wedi anfon bag pethau da neu anrheg atoch, a gallwch chi fynd ar Instagram i ddiolch iddynt. Gall hyd yn oed cael un unigolyn i hoffi o gyfrif gyda nifer sylweddol o ddilynwyr eich helpu i gael mwy o sylw i’ch busnes bach.

Ystyriwch eich marchnad darged wrth greu cynnwys

Gwyddom fod ymddangos ar y dudalen Explore yn golygu cael pobl i hoffi eich pyst. Un o’r dulliau gorau o wneud hyn yw creu cynnwys gwych a diddorol sy’n mynd i gipio sylw eich cynulleidfa darged.

Er mwyn helpu â hyn, treuliwch amser yn ‘gwrando’n gymdeithasol’, felly edrychwch ar eich cwsmeriaid a’ch cystadleuwyr ar Instagram a gweld beth yw eu gweithgareddau, gan gynnwys pa gyfrifon maent yn eu dilyn, pa ffotos maent yn ymgysylltu â nhw ac a ydynt yn tueddu’n fwy tuag at hoffi neu roi sylwadau ar byst. Ynghylch y cystadleuwyr, gwiriwch pa rai o’u pyst sy’n sbarduno’r rhan fwyaf o’r ymgysylltu. Cymerwch yr hyn maen nhw’n ei wneud yn dda a defnyddiwch hynny i ddylanwadu ar eich strategaeth Instagram ac yn yr un modd sylwch pa rai o’u pyst nad ydynt yn gweithio gystal.

Mae hefyd yn bwysig iawn i ddeall yr hyn mae gan eich gwsmeriaid posibl ddiddordeb ynddo ac â beth maent yn ymgysylltu. Beth am eu dilyn ar Instagram, trwy glicio ar y tab dilynol. Fe’ch cyflwynir â’r holl ddelweddau mae’r bobl rydych yn eu dilyn wedi eu hoffi, gan roi mewnwelediad da i chi o’r math o gynnwys maent yn ymgysylltu ag ef.

Ystyriwch yr amseru

Mae pyst sy’n cael llawer o bobl i’w hoffi’n gyflym ar ôl iddyn nhw gael eu postio yn fwy tebygol o berfformio’n well yn y llinborthiad Instagram a’r dudalen Explore. Un o’r dulliau gorau o wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd yw meddwl am bryd rydych chi’n postio’ch cynnwys ac a fydd eich cynulleidfa darged yn weithredol ar y pryd hwnnw.

Os nad ydych chi wedi’i wneud eisoes, gwnewch yn siŵr bod eich cyfrif yn broffil busnes Instagram a mynd draw at yr adran ddadansoddeg lle gallwch weld yr amserau gorau i bostio’ch cynnwys yn seiliedig ar bryd fydd eich dilynwyr yn weithredol. Trefnwch eich pyst yn seiliedig ar hyn er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt i gael ymgysylltu gwych yn syth bin.

Cynhwyswch alwad i weithredu

Peidiwch ag anghofio annog eich dilynwyr i ymgysylltu â’ch pyst trwy ddefnyddio galwad i weithredu. Wedi’r cyfan, un o’r dulliau gorau i ymddangos yn y dudalen Explore yw trwy sylwadau pobl eraill, felly ceisiwch orffen eich capsiynau â chwestiwn i annog ymgysylltu.

Hefyd gallwch roi sylwadau ar byst perthnasol pobl eraill i adeiladu cymuned Instagram a fydd yn eich gwobrwyo â mwy na phobl yn hoffi yn unig. Bydd hefyd yn helpu i gynyddu eich sylw hyd yn oed ymhellach wrth i ddilynwyr weld eich sylwadau a gallent benderfynu edrych ar eich cyfrif.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i ddefnyddio hashnodau

Mae hashnodau’n un o nodweddion enwocaf Instagram wedi’r cyfan, felly bydd eu defnyddio yn sicrhau bod unrhyw un sy’n chwilio am y term neu’r allweddair yn gweld eich pyst. Hefyd gallant helpu yn eich ymdrech i ymddangos ar dudalen Explore y bobl hynny sy’n defnyddio ac yn ymgysylltu â’r un hashnodau rydych chi’n eu defnyddio.

Cofiwch bob amser i gadw’ch hashnodau’n berthnasol i’ch cynnwys fel eich bod yn targedu’r gynulleidfa gywir. Oherwydd bod hashnod yn trendio, ni ddylech neidio arno o reidrwydd, yn arbennig os nad yw’n berthnasol i’ch busnes. Hefyd mae’n well osgoi hashnodau sy’n aneglur iawn. Er enghraifft, efallai y bydd gan #love 1.2 biliwn o byst ond mae’ mor aneglur eich bod yn annhebygol o ddenu llawer o ddilynwyr trwy ei ddefnyddio.

Mae nifer o offer, megis Hashtagify.me ac apiau, megis Focalmark, a all eich helpu i weld pa hashnodau y dylech eu defnyddio.

I grynhoi, po fwyaf o ymgysylltu rydych yn ei gael ar eich pyst Instagram, po fwyaf tebygol ydyw y byddwch yn ymddangos ar y dudalen Explore. Felly defnyddiwch y rhestr wirio hon bob tro y byddwch yn creu post Instagram newydd i gynyddu eich siawnsiau:

  1. Ydych chi wedi gwneud eich ymchwil, ac a fydd y post hwn yn cynnig gwerth go iawn i’ch cynulleidfa?
  2. Ydych chi wedi tagio defnyddwyr eraill yn eich post ac a yw’n briodol?
  3. A yw eich cynnwys wedi’i deilwra i’ch cynulleidfa darged?
  4. Ai dyma’r amser gorau i bostio?
  5. Ydych chi wedi cynnwys galwad i weithredu?
  6. Ydych chi’n defnyddio’r hashnodau gorau ac a ydynt yn berthnasol?

Related blog posts

Creu strategaeth Instagram mewn pum cam
Read
desk
Canllaw i hysbysebu ar LinkedIn ar gyfer busnesau bach
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read

© Nominet UK 2024