Nom Nom

.cymru’n helpu Nom Nom rhannu eu hanes

Gydag enw fel Nom Nom, mae’n amlwg pa mor flasus yw eu siocled a gyda pharth .cymru, mae gwreiddiau a lleoliad y cwmni’r un mor amlwg cyn i chi hyd yn oed cyrraedd y gwefan.

Wedi ei gynllunio mewn beudy yn Llanboidy yng Ngorllewin Cymru, mae Nom Nom wedi ehangu’n gyflym ers sefydlwyd gan Liam Burgess yn 2011 ac wedi casglu dilynwyr yng Nghymru a ledled y byd gyda’u blasau creadigol gan gynnwys siocled blas cacen gri, marmaled oren a waffle. Ac yn helpu iddo ledaenu’r neges am ei siocled Cymreig unigryw yw’r parth Cymreig unigryw:

“Mae’n bwysig iawn ni ein bod yn dangos o le rydym yn dod ac mae’n gyfle gwych i gyfathrebu ein bod o Gymru a’n bod yn falch o ddod o Gymru. Ein bwriad yw dangos ein bod yn wahanol i frandiau a gwasanaethau eraill sydd ar gael ac rydym yn credu bod .cymru yn ffordd o ddweud hanner y stori heb orfod dweud unrhyw beth.

“Yn sicr, byddwn yn awgrymu dylai unrhyw un sy’n marchnata cynnyrch yng Nghymru yn defnyddio parthau .cymru a .wales. Rydym yn naturiol yn dda iawn am gydweithio yng Nghymru ac yn gwella. Mae’r byd ar-lein yn cynnig dyfodol disglair i Gymru ac os gallem gael yr hunaniaeth yno a’i rannu, dwi’n credu bydd o’n rhywbeth cadarnhaol iawn ar gyfer y dyfodol.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

CRWST
Read
Coffi Dre
Read
Banc Datblygu Cymru
Read

© Nominet UK 2024