Gwefannau cyntaf .cymru a .wales yn lansio: Carreg filltir ddigidol i Gymru

Heddiw fe fydd y gwefannau cyntaf .cymru a .wales yn mynd yn fyw pan fydd y Prif Weinidog a Llywydd y Cynulliad yn swyddogol yn symud y garfan gyntaf o wefannau i’w parthau rhyngrwyd newydd, gan ddynodi diwrnod hanesyddol yn hanes digidol Cymru.

Fe fydd y rheiny sydd eisiau datgan eu hunaniaeth Gymreig ar-lein yn gallu gwneud hynny trwy ddau enw parth .cymru a .wales newydd. Un o’r rhai cyntaf i fynd yn fyw bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a oedd ymysg y cyntaf i ddatgan eu cefnogaeth i’r parthau rhyngrwyd newydd a heddiw byddent yn mabwysiadu eu cyfeiriadau we newydd, cynulliad.cymru ac assembly.wales, yn swyddogol.

Wrth siarad am y digwyddiad hanesyddol hwn, dywedodd Ieuan Evans MBE, Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Nominet, “Mae heddiw yn ddechrau ar gyfnod newydd i Gymru yn y byd digidol. Gyda’r grwpiau cyntaf o wefannau’n mynd yn fyw heddiw, dyma’r dechrau ar fenter newydd ac arloesol i Gymru. Yng nghyfnod nesaf y prosiect fe fydd y cyfle hwn yn cael ei ehangu i holl fusnesau ac unigolion. Rydym yn edrych ymlaen at allu rhannu’r parthau newydd hyn gyda phawb yng Nghymru.”

Yn ymuno a’r Cynulliad wrth newid eu parthau bydd Media Wales, gyda’u gwefannau Wales Online ac Daily Post yn trosglwyddo drosodd i’r parthau newydd, Undeb Rygbi Cymru, Golwg360, Clark’s Pies, Bloc, Gwalia, Atlantic PLC, Orchard a Portmeirion.

Wrth groesawu’r parthau newydd, dywedodd Llywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler AC, “Mae cydnabyddiaeth brand yn allweddol i allu hyrwyddo gwaith a diddordebau sefydliadau a busnesau’n llwyddiannus. Fe fydd brand .wales/.cymru o fudd mawr i sefydliadau Cymraeg wrth iddynt ymdrechu i gael sylw ar draws y byd.

“Dyma ddatblygiad cyffrous a chadarnhaol i Gymru. Rwy’n falch bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymryd rhan flaengar yn y fenter hon wrth gytuno i fod yn un o’r ‘mabwysiadwyr cynnar’ ar gyfer y parthau newydd.”

“Rwy’n annog pawb sydd gyda phresenoldeb ar-lein yn Nghymru neu’n ymwneud a Chymru i ystyried mabwysiadu’r .cymru/.wales newydd, fel rhan o’u dyfodol.”

Ym mis Tachwedd fe fydd y ffenestr yn agor ar gyfer holl fusnesau sy’n masnachu yng Nghymru i gael eu parthau newydd cyn argaeledd cyffredinol i’r cyhoedd ym Mawrth 2015. Gyda dros 8,000 o fusnesau newydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru’n flynyddol, mae’r parthau newydd yn cynnig cyfle perffaith iddynt arddangos eu bod yn Gymraeg, ar-lein a’u bod yn falch o fod yn rhan o gymuned ar-lein Cymru sy’n parhau i dyfu.

Dywedodd y Farwnes Rennie Fritchie, Cadeirydd Nominet UK, y cwmni sy’n cefnogi .cymru a .wales, “Wedi 25 mlynedd o’r we fyd-eang, mae Cymru’n creu hanes gan sefydlu cartref ei hun ar-lein. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect .cymru .wales, wedi’n cyffroi gan y diddordeb ynddo ac yn edrych ymlaen at weld y gymuned Gymraeg yn datblygu a thyfu ar-lein.”

NODIADAU I OLYGYDDION

Fe fydd y lansiad swyddogol yn cael ei gynnal yn y Senedd ar ddydd Mawrth 30 Medi 2014 rhwng 18.00 ac 20.00.

CYFLEOEDD CYFWELD

Fe fydd cyfleoedd i gyfweld Ieuan Evans, Llywydd y Cynulliad a’r Prif Weinidog yn ystod y digwyddiad.

Amdan .cymru a .wales:

Am ragor o wybodaeth am raglen llawn .cymru a.wales, ewch i:
http://ourhomeonline.wales
http://eincartrefarlein.cymru

Ymysg y sefydliadau Cymraeg eraill sydd wedi ymrwymo i’r newid mae:

– Y pedwar prif blaid wleidyddol yng Nghymru;
– S4C;
– Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI Cymru)
– Llywodraeth Cymru
– Only Men Aloud;
– Remploy;
– Sioe Amaethyddol Cymru
– Cowbois
– Traveline Cymru

Am Nominet:

Nominet yw’r cwmni dielw sy’n gyfrifol am yr enw parth hynod lwyddiannus, .co.uk ac yw’r cwmni sydd wedi cefnogi’r cais am barthau .cymru a .wales. Am ragor o wybodaeth, ewch i:http://www.nominet.org.uk/

Manylion cyswllt: Daran Hill [email protected], 02920 442020 / 07796624955

Related blog posts

.cymru .wales: 19,000 Enw Parth i Gymru
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read

© Nominet UK 2024