Yr Eisteddfod Genedlaethol yn arwain cyrff hyrwyddo diwylliant ac iaith Cymru i fabwysiadu .cymru .wales

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru heddiw’n cadarnhau y byddai’n mabwysiadu’r brandiau arlein .cymru .wales pan y byddent ar gael yn hwyrach eleni.

Cyhoeddwyd yr un penderfyniad heddiw gan Urdd Gobaith Cymru; Merched y Wawr; Comisiynydd y Gymraeg; clwb rygbi’r Scarlets; Mudiad Meithrin; Siop Mabon a Mabli, sef is-gwmni i Mudiad Meithrin sy’n arbenigo mewn adnoddau blynyddoedd cynnar Cymraeg a dwyieithog; Canolfan ABC, sef Canolfan Astudio Busnes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;  a’r cwmni crysau-t a hwdis poblogaidd, Cowbois, sydd wedi gwneud defnydd arloesol o’r Gymraeg wrth frandio ffasiwn.

Maent yn ymuno â rhestr o Bartneriaid Sylfaenu a fydd yn newid i ddefnyddio .cymru neu .wales, sydd hefyd yn cynnwys S4C, FSB (Federasiwn Busnesau Bach) Cymru, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Brenhinol Cymru, Ffederasiwn y Ffermwyr Ifanc Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor y Celfyddydau Cymru a rhestr eang o fusnesau bach yn cynnwys Y Lolfa, Fabulous Welshcakes a Clark’s Pies.

Dywed Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda’r ŵyl flynyddol yn Sir Gaerfyrddin eleni, “Mae’r Eisteddfod yn falch iawn o fod yn rhan o .cymru a .wales.  Mae’n gam naturiol i ni fabwysiadu’r brand hwn, gan fod yr Eisteddfod yn un o frandiau blaenaf Cymru a’r ŵyl yn ffenestr siop arbennig ar gyfer Cymru, felly bydd cael cyfeiriad .cymru a .wales yn gaffaeliad i ni a’n gwaith.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd:

“Mae’r Urdd yn credu y bydd defnyddio’r parth .cymru yn atgyfnerthu’n neges i’n haelodau o bwysigrwydd ein hunaniaeth Gymraeg a Chymreig. Edrychwn ymlaen at allu cyflwyno’r datblygiad pwysig hwn i’n gwefan sy’n cyfathrebu gyda’n 50,000 o aelodau ac sy’n  un o’r gwefannau Cymraeg mwyaf poblogaidd.”

Ychwanegodd Gill Griffiths, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr:

“Mae Merched y Wawr yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddefnyddio cyfeiriad ebost .cymru. Dyma gyfle euraidd i ni hyrwyddo a chadarnhau hunaniaeth ein gwlad a’n hiaith gerbron yr holl fyd. Mawr yw ein diolch i bawb a fu wrthi’n ymdrechu mor ddygn i sicrhau’r parthau arloesol hyn.”

Ar ran Cowbois, meddai Wyn ap Gwilym:

“Y cyfle i fabwysiadu dot arlein sy’n dweud bod Cymru yn gam naturiol a chyffrous i Cowbois. Rydym yn ymroddedig i ddefnyddio’r Gymraeg arlein ac hefyd ar ein crysau-t a rydym wrth ein bodd i ymrwymo i ddefnyddio y dotiau newydd ac i annog cwmniau eraill cyfrwng Cymraeg i wneud yr un peth.”

Dywedodd Ieuan Evans, Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Nominet, “Rydym yn hynod falch ein bod yn gallu cyhoeddi bod y cyrff Cymreig allweddol hyn am newid eu henwau parth i .cymru a .wales cyn gynted a phosib. Mae’r enwau parth yn cynnig cyfle gwych i iaith a diwylliant unigryw Cymru i osod eu marc ar y byd digidol a mae’n wych bod y cyrff allweddol hyn yn ymuno â ni ar y daith wrth arwain y ffordd ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill led led Cymru.”

Mae Nominet, y cwmni tu ol i .cymru a .wales, yn cefnogi defnydd y Gymraeg arlein ac wedi creu fframwaith bolisi cryf i sicrhau bod y parthau newydd yn datblygu a thyfu:

– Fe fydd gofyn i Ailwerthwyr Parthau sy’n gwerthu enwau parth i’r cyhoedd cael enwau parth .cymru a .wales er mwyn sicrhau statws cyfartal i’r ddwy iaith a’r ddau enw parth. Fe fydd yna gyfnod lansio cyfyngedig a fydd o fudd i fusnesau sy’n gweithredu yn y farchnad Gymreig cyn i’r parthau bod ar gael ar sail gyntaf i’r felin.

– Fe fydd unigolion, cwmnïau a sefydliadau yn gallu dewis i gofrestru eu henwau parth unai’n .cymru neu .wales neu’r ddau.

– Rydym wedi sefydlu partneriaeth arloesol gyda gwasanaeth Galw Gwynedd, Cyngor Gwynedd, sy’n cynnig cefnogaeth ganolfan galw ddwyieithog i alwyr. Fe fydd Nominet hefyd yn cyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg gwirfoddol.

– Fe fyddem yn dilyn dull unigryw a datblygwyd yn benodol ar gyfer y parthau hyn ble fydd y parthau’n caniatáu cofrestriad enwau sy’n defnyddio acenion yr iaith Gymraeg er mwyn adlewyrchu enwau parth gydag acenion.

NODIADAU I GOLYGYDDION

Am fwy o wybodaeth am raglen .cymru .wales ewch i:

http://ourhomeonline.wales

http://eincartrefarlein.cymru

Manylion cyswllt: Daran Hill [email protected] / 02920 442020 / 0779 662 4955

Related blog posts

Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read
Busnesau Cymru’n medi manteision .cymru a .wales
Read

© Nominet UK 2024