Creu strategaeth Instagram mewn pum cam

Wyddech chi bod 63% o fusnesau bach eisoes yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol a bod 22% yn cynllunio trefnu cyfrif yn y dyfodol agos? Nid yw’n syndod clywed bod busnesau ym mhobman yn manteisio ar y buddion mae llwyfannau cymdeithasol yn eu cynnig.

Fodd bynnag, mae hyd at 40% o’r sawl sydd eisoes yn hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol heb fod â strategaeth glir wedi ei diffinio – sydd yn golygu ei bod yn debygol nad ydynt yn cael elw ar eu buddsoddiad.

Mae byd y cyfryngau cymdeithasol yn lle swnllyd a byddwch yn dod ar draws cryn dipyn o gystadleuaeth – felly mae’n hanfodol bod gennych strategaeth mewn lle i sicrhau bod eich gweithgaredd cymdeithasol mor effeithiol â phosibl.

Strategaeth Instagram – beth yw e?

Dogfen gynhwysfawr yw strategaeth Instagram sydd yn edrych ar:

  • Pam ydych yn postio
  • Beth ydych yn postio
  • Pryd ydych yn postio
  • Sut ydych yn postio

Bydd y cynllun hwn yn dangos pwrpas eich cynnwys a’r nodau rydych yn anelu atynt trwy gael cyfrif Instagram.

Mantais allweddol o gynhyrchu’r ddogfen strategaeth hon yw bod yn rhaid i chi gymryd yr amser i ddeall eich cynulleidfa:

  • Pwy ydyn nhw?
  • Am beth maen nhw’n chwilio?
  • Sut mae eu hanghenion yn cyd-fynd â’ch nodau chi?
  • Sut medrwch chi eu denu i fod yn rhan o’ch busnes chi?

Creu eich strategaeth Instagram

Nawr eich bod yn gwybod beth yw strategaeth Instagram – sut ydych chi’n dechrau?

Gall creu strategaeth Instagram am y tro cyntaf deimlo braidd yn llethol. Y newyddion da, fodd bynnag, yw y gall Instagram fod yn offeryn hynod o rymus o’i ddefnyddio’n gywir ac mae eich strategaeth chi yn mynd i’ch helpu i ddatgloi ei bosibiliadau.

Dyma ganllaw cam wrth gam gyda chyngor ynghylch beth i’w ystyried a sut i gynllunio’ch strategaeth.

Cam 1: Amcanion

Holwch eich hun: “Pam ydw i am fod ar Instagram?” Dylai hyn gysylltu yn ôl â nodau eich cwmni.

Mae 2019 Sprout Social Index yn awgrymu bod bron i 50% o farchnatwyr yn canfod mai cyfuno eu hymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ag amcanion eu cwmni yw eu hymdrech fwyaf, felly mae’n ddealladwy eich bod yn ei gweld yn heriol i ddechrau.

I’ch helpu i nodi eich amcanion ar gyfer Instagram, dilynwch y canllawiau a amlinellir isod a chofiwch ystyried eich amcanion busnes ehangach hefyd.

Nodi amcan cyffredinol

Os medrwch benderfynu pam mae eich busnes yn weithredol ar gyfryngau cymdeithasol yn y lle cyntaf, bydd hyn yn helpu gosod y broses o nodi amcanion.  Gall enghreifftiau gynnwys:

  • Gwella traffig at eich gwefan
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o frand
  • Hyrwyddo cynhyrchion/gwasanaethau penodol
  • Denu dilynwyr lleol a thyfu presenoldeb yn y gymuned
  • Darparu llwyfan ar gyfer cwsmeriaid presennol i hybu teyrngarwch
  • Cynyddu gwerthiant
  • Creu cyfleoedd newydd

Wedi i chi sefydlu eich amcanion ehangach, gallwch ddechrau meddwl am amcanion mwy penodol a fydd yn ysgogi eich gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol dyddiol.

Penderfynu ar amcanion SMART

Bydd yr amcanion mwy penodol hyn yn gwneud i chi feddwl o ddifrif am gyfeiriad eich strategaeth Instagram.

  • Dylai

amcanion penodol fod yn glir, yn syml ac wedi eu diffinio – heb adael lle i’w camddehongli. Er enghraifft, efallai byddwch yn gosod amcan megis nifer pendant o ddilynwyr newydd erbyn dyddiad arbennig neu werthu nifer penodol o gynhyrchion o ganlyniad uniongyrchol i ymgyrch.

  • Mesuradwy

Yn ddelfrydol dylai fod gan amcan un metrig neu fwy, er enghraifft dilynwyr newydd, llofnodwyr newydd ar e-byst, gwerthiannau ac ati.

  • Cyraeddadwy

Gyda’r adnoddau sydd gennych ar hyn o bryd – a yw eich amcanion yn gyraeddadwy?

  • Realistig

Os mai busnes bach ydych chi neu eich bod newydd ddechrau, a yw hi’n bosibl denu 1000+ o ddilynwyr newydd y mis a phostio cynnwys yn ddyddiol os ydych yn brin o amser?

  • Sensitif i amser  

Trwy osod eich amcanion o fewn terfyn amser byddwch yn fwy tebygol o’u cyflawni.

 

Cam 2: Cynulleidfa

Rhan hanfodol o’ch strategaeth yw deall eich cynulleidfa, gan y bydd hyn yn eich helpu i nodi pa bryd a beth i’w bostio ar Instagram.

Os ydych wedi diffinio personâu eich prynwyr eisoes, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu ar eich cynulleidfa darged. Os nad ydych wedi gwneud hyn, mae’n syniad da i nodi pwy yw’r cwsmer nodweddiadol ar gyfer eich busnes – meddyliwch am y canlynol:

  • Pwy yw’ch cwsmeriaid? Pa mor hen ydyn nhw? Beth yw eu bywoliaeth? Ble maen nhw’n byw?
  • Beth sy’n eu diddori? Ydyn nhw’n hoffi adloniant, cynnwys addysgiadol, gwybodaeth ar gynnyrch newydd neu gweld astudiaethau achos?
  • Ble maen nhw i’w gweld gan amlaf ar-lein?Pa safleoedd cyfryngau cymdeithasol maen nhw’n eu defnyddio amlaf? Ydyn nhw’n edrych ar safleoedd newyddion neu a yw’n well ganddyn nhw lwyfannau mwy arbenigol?
  • Pa bryd maen nhw ar-lein gan amlaf? Mae ambell gynulleidfa yn tueddu bod ar-lein yn amlach yn ystod y penwythnos, rhai yn ystod eu taith ddyddiol i ac o’r gwaith ac eraill amser cinio neu gyda’r nos.
  • Pam maen nhw’n defnyddio’r Rhyngrwyd? Ydyn nhw’n ei ddefnyddio i ddilyn y newyddion, i ganfod mwy am gynhyrchion, i brynu cynhyrchion neu i chwilio am gyngor?
  • Sut maen nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd? A yw eich cynulleidfa’n hoffi darllen negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, blogiau neu wylio fideos?

Ffordd ddefnyddiol arall o leoli’ch cynulleidfa darged yw i gynnal dadansoddiad o broffiliau cyfryngau cymdeithasol eich cystadleuwyr.  Beth mae eich cystadleuwyr yn postio a phwy sy’n eu dilyn? Bydd hyn yn darparu darlun defnyddiol ynghylch sut rai yw eich cynulleidfa darged hefyd.

Dyma 13 offeryn dadansoddi cystadleuwyr y medrwch roi cynnig arnynt.

 

Cam 3: Llais y brand

Mae personoliaeth a thôn llais yn chwarae rhan bwysig yn eich strategaeth Instagram gyffredinol.  Dyma’r tôn rydych yn ei defnyddio wrth bostio, yr iaith rydych yn ei defnyddio a’r math o gynnwys rydych yn ei bostio.

Fyddwch chi’n siarad yn ffurfiol gyda dilynywr neu’n defnyddio bratiaith? Fyddwch chi’n darparu negeseuon â gwybodaeth ynddynt neu’n rhannu cynnwys hwyliog, ysgafn?

Bydd ffurfio personoliaeth unigryw ar gyfer eich brand yn eich gwahaniaethu rhag eich cystadleuwyr ac yn rhoi cyfle i’ch dilynwyr ddod i’ch adnabod.  Bydd eich cynulleidfa am wybod beth i’w ddisgwyl gennych chi – os ydych yn llawn hwyl a memynnau un diwrnod ac yn postio materion astrus difrifol drannoeth, byddwch yn rhoi negeseuon cymysg i’ch dilynwr sydd yn debygol o’u harwain i wneud un peth ->rhoi’r gorau i ddilyn.

Wrth nodi eich llais a’ch tôn meddyliwch am y canlynol:

  • Pe byddai eich brand yn berson, pa fath o bersonoliaeth fyddai ganddo? Pa fath o berthynas fyddai rhyngddo a’ch cwsmeriaid?
  • Pa nodweddion personoliaeth nad oes ganddo (gwirion, grymus, ymwthgar, pregethwrol ac ati)?
  • Pa frandiau sydd â phersonoliaeth debyg i’ch un chi?
  • Beth ydych chi am i gwsmeriaid ei feddwl am eich brand?

 

Cam 4: Cynnwys

Mae cam pedwar eich strategaeth Instagram yn golygu edrych yn fanwl ar y math o gynnwys rydych yn mynd i’w bostio a pha mor aml byddwch yn ei rannu.

Wrth gynllunio beth i’w rannu, mae’n ddefnyddiol nodi llond dwrn o themâu – mae hyn yn rhoi’r rhyddid i chi bostio amrywiaeth o gynnwys i ennyn diddordeb eich cynulleidfa. Fodd bynnag, mae’n bwysig glynu at y themâu hyn; os ydych yn ceisio postio ynghylch popeth ac unrhyw beth mae’n debygol y bydd eich dilynwyr yn drysu ynghylch eich hunaniaeth.

Enghraifft wych o frand sy’n defnyddio nifer o themâu a glynu atynt yw Shell on Earth, busnes teuluol yng Nghei Newydd Cymru sy’n darparu cregyn a ailgylchwyd o ffynhonnell gynaliadwy i’w defnyddio gyda phlanhigion. Yn gyffredinol, mae’r wybodaeth yn gyson a’r themâu yn bresennol bob tro – mae pob post yn rhannu’r un hidlwr ac ymdeimlad botanegol naturiol. Mae’r penawdau yn ddi-lol a sgyrsiol, sydd yn ymglymu’n braf gyda’r delweddau cynnes a chyfeillgar sy’n cyd-fynd â nhw.

Instagram profile

Wrth gynllunio’r cynnwys ar gyfer eich tudalen eich hun, mae angen i chi sicrhau y bydd yn cydseinio gyda’ch dilynwyr, fel eu bod yn ymwneud â hi ar ffurf hoffi, sylwadau a thagio eraill.

Gallwch gyflawni hyn trwy ystyried y canlynol:

  • Pa obeithion neu heriau sydd gan eich cwsmeriaid?
  • Sut medrwch chi eu helpu eu cyflawni neu eu goresgyn?

Syniadau cynnwys

Dyma rai syniadau defnyddiol i’ch helpu i gychwyn:

  • Tu ôl i’r llenni a chwrdd â’r tîm 

Mae’r math hwn o gynnwys yn eich gwneud yn fwy dymunol ac unwaith eto, yn creu ymddiriedaeth. Mae wynebau dynol hefyd yn helpu creu cysylltiad personol â’ch brand ac yn gweithio ar emosiynau pobl. Mae ffotograffau sy’n dangos wynebau yn derbyn 38% mwy o enghreifftiau hoffi o’i gymharu â rhai nad ydynt yn eu dangos.

  • Cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr

Os medrwch gael gafael ar ffotograffau o gwsmeriaid, mae’n gynnwys gwych i’w ddefnyddio. Mae’n hwyl, yn ddilys, yn creu ymddiriedaeth, yn helpu pobl ymdeimlo â chi ac yn ffordd arbennig o ddangos eich cynnyrch wrth eu gwaith. Dyma enghraifft dda iawn o gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddiwr oddi wrth MeUndies ac fel y gwelwch mae defnyddiwr yn gwneud y sylw hwn ‘Fedra i ddim aros i archebu’r rhain ar gyfer fy nghariad a fi.’

Instagram Me Undies

 

  • Ffotograffau dengar

Ar wahân i wynebau pobl, y mathau eraill o ffotograffau sydd gan amlaf yn derbyn nifer cadarnhaol o enghreifftiau hoffi ar Instagram yw delweddau hanesyddol, tirluniau, anifeiliaid a bwyd.

Meddyliwch a yw rhai o’r rhain yn berthnasol i’ch busnes chi a sut y medrwch eu defnyddio.

  • Arddangosiadau o gynnyrch 

Mae arddangosiadau’n darparu cyfle da i chi greu cynnwys fideo.  Mae fideos ar Instagram yn derbyn  38% mwy o ymgysylltu  na negeseuon delwedd, felly mae’n werth ychwanegu ambell un i’ch ffrwd.

  • Newyddion busnes 

Gall hyn gynnwys aelodau staff newydd, gwobrau rydych wedi eu hennill a symudiadau yn y swyddfa.

  • Hyrwyddo a rhoi pethau am ddim

Dysgwch ragor  ynghylch sut y gall marchnata cystadleuol fod o fudd i BBaChau yma.

 

Pryd i bostio ar Instagram

Mae creu amserlen gynnwys gyda chynllun o beth a pha bryd i’w bostio yn golygu eich bod yn fwy tebygol o fwynhau llwyddiant ar Instagram. Heb gynllun mewn lle, mae’n hawdd gadael i’r dyddiau a’r wythnosau lithro heibio gyda phethau eraill mwy o faint yn tynnu eich sylw oddi ar bostio.

Mae gweithredu offeryn amserlennu yn ffordd syml o osgoi’r broblem hon. Ysgrifennwch eich negeseuon ymlaen llaw, trefnwch y dyddiad a’r amser a byddant yn cael eu rhannu’n awtomatig heb unrhyw help ychwanegol gennych chi.

Os ydych yn newydd i offer amserlennu cyfryngau cymdeithasol, mae rhai o’r llwyfannau defnyddiol i’w hystyried yn cynnwys Hootsuite, Sprout Social, CoSchedule, Feedly a Post Planner.

I benderfynu ar yr amser gorau o’r dydd i anfon eich negeseuon, edrychwch ar eich cipolygon Instagram.  Oddi mewn i gipolygon Instagram, os cliciwch chi ar ‘Cynulleidfa’ a sgrolio lawr i’r gwaelod, medrwch weld y prif adegau mae eich dilynwyr ar-lein. Ac mae Buffer wedi creu canllaw defnyddiol i helpu busnesau benderfynu ar  yr amser gorau i bostio ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Cam 5: Mesur llwyddiant

Yr unig ffordd i wybod yn iawn bod eich strategaeth Instagram ar y trywydd cywir yw i fesur eich perfformiad – mae offer dadansoddeg yn ddelfrydol ar gyfer hyn.

Oddi mewn i Instagram bydd gennych chi fynediad i gipolygon megis nifer dilynwyr, barn am bostio a stori, rhyngweithiadau tudalennau, argraffiadau a chyrraedd cynulleidfa.

Os ydych yn adolygu’n rheolaidd pa negeseuon sydd yn derbyn yr ymgysylltu mwyaf, megis trwy hoffi a sylwadau, gallwch greu darlun gwell o’r math o gynnwys mae eich cynulleidfa yn ymateb orau iddo.

Yna gallwch ddefnyddio offer dadansoddeg gwefan megis Google Analytics i benderfynu faint o bobl sydd wedi ymweld â’ch gwefan oherwydd Instagram, faint o amser dreulion nhw ar eich safle, pa dudalennu roeddynt wedi edrych arnynt ac a oeddynt wedi prynu neu beidio.

Yr agwedd olaf ar eich strategaeth marchnata Instagram yw i ystyried sut rydych yn mynd i arddangos eich cynllun.Mae gan  Hootsuite dempled defnyddiol am ddim sy’n ei gwneud yn hawdd i amlinellu amcanion, nodi eich cynulleidfa darged, monitro eich cystadleuaeth ac archwilio presenoldeb eich cyfryngau cymdeithasol cyfredol.

Gan arwain o hyn, edrychwch ar ganllaw marchnata Instagram i fusnesau bach, a fydd yn eich arwain trwy osod eich cyfrif busnes, postio storïau a brwydro algorithmau yn llwyddiannus.

Postiwyd yn wreiddiol gan Monique Holtman ar Barth y DU.

Related blog posts

Yr hyn mae Instagram Explore yn ei olygu, pam bod arnoch ei angen, a sut y gallwch gael eich cynnwys arno
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
desk
Canllaw i hysbysebu ar LinkedIn ar gyfer busnesau bach
Read

© Nominet UK 2024