WRU

.cymru yw’r dewis gorau i frand WRU

 

Gyda rygbi’n chwarae rhan bwysig yn hunaniaeth genedlaethol Cymru, roedd yn gwneud perffaith synnwyr i geidwad rygbi yng Nghymru, Undeb Rygbi Cymru, i fod gyda’r cyntaf i fabwysiadu ein henwau parth cenedlaethol cyntaf hefyd: .cymru a .wales.

Gyda’r wefan yn gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth hollbwysig i gefnogwyr Cymru, adref ac ar draws y byd, mae sicrhau ei fod yn ateb y gofyn yn allweddol i’r WRU. Felly pan ddaeth hi’n amser i ddiweddaru a moderneiddio’r wefan, nid yn unig wnaethant fabwysiadu’r parthau ar gyfer eu prif wefan, www.wru.cymru a www.wru.wales, gwnaethent hefyd bachu ar y cyfle i newid enw parth y stadiwm ynghyd a drosgwlyddo gwefannau’r holl glybiau ar hyd Cymru sy’n aelodau i gyfeiriadau .cymru a .wales.

“Penderfynom gofrestru enw parth .wales gan ein bod yn meddwl ei fod yn wych ar gyfer ein brand, gwych ar gyfer ein hunaniaeth fel busnes wedi’i seilio yng Nghymru.” Meddai Rhodri Lewis, Pennaeth Materion Cyfreithiol WRU.

“Mae cael presenoldeb arlein cryf yn holl bwysig i’r hyn rydym yn ei wneud gyda chymaint yn ddibynnol ar gyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu digidol ac ar adegau, ein gwefan yw ein prif gyswllt gyda’r pobl sy’n dod i’r stadiwm sydd eisiau bod yn rhan o rygbi yng Nghymru.

“Rydym wedi gweld ei fod yn rhywbeth gwych i Gymru ac i ni fel brand gyda chyrhaeddiad byd-eang a gobeithio gallem hefyd gwerthu Cymru wrth groesawu pobl i’r wlad.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Gymdeithas Pêl-droed Cymru
Read
National Botanic Garden of Wales
Read
Banc Datblygu Cymru
Read

© Nominet UK 2024