Theatr Genedlaethol

.cymru: Dolen Gyswllt y Theatr â’r Gynulleidfa

Fel ein cwmni theatr genedlaethol mae Theatr Genedlaethol Cymru yn teithio ledled Cymru a thu hwnt yn cyflwyno eu cynyrchiadau arloesol i gymunedau ar hyd y wlad. Dyna pam, pan ddaeth y cyfle i gofrestru parth newydd, .cymru oedd y dewis amlwg iddyn nhw: mae’n rhan o’u henw!

Esboniodd Lowri Johnston, Pennaeth Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru pam theatr.cymru oedd y parth delfrydol iddyn nhw; “Mae parth .cymru yn hynod bwysig i ni fel busnes achos mae Cymru’n rhan o’n henw ni. Ni’n gwmni cenedlaethol ac mae’n bwysig ein bod yn dangos ein bod yn gweithio ar draws y wlad yn gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru.”

Yn debyg i’r rhan fwyaf o fusnesau sy’n mabwysiadu cyfeiriadau .cymru a .wales, yn aml iawn eu gwefan yw’r ddolen gyswllt bwysicaf rhyngddynt a’u cwsmeriaid ac mae’r parth Cymreig yn caniatau iddynt dangos i’r cwsmeriaid o le maen nhw’n dod.

“Mae’n hynod bwysig i ni fel busnes cael presenoldeb ar y we. Fel pob busnes, dyna sut rydym yn cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol ym mhob rhan o Gymru a thu hwnt i Gymru ac mae’n ffenestr siop i’n busnes a beth rydym yn cynnig. Dwi’n meddwl bod hi’n bwysig iawn i fusnesau sydd wedi lleoli yma yng Nghymru bod nhw’n dangos i ddechrau o ba wlad maen nhw ond hefyd i gynrychioli’r cwsmeriaid maen nhw’n gwasanaethu.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Happy Yoga Wales
Read
National Botanic Garden of Wales
Read
Afallen team
Afallen
Read

© Nominet UK 2024