Swyddle

Swyddle’n bachu’r cyfle i ddefnyddio .cymru a .wales

Pan ddaeth .cymru a .wales ar gael am y tro cyntaf, fe wnaeth Swyddle, cwmni Cymraeg newydd, bachu ar y cyfle i’w defnyddio. Fel cwmni annibynnol sy’n canolbwyntio’n bennaf ar recriwtio drwy’r Gymraeg, mae gallu adlewyrchu eu bod yn gwmni Cymreig, sy’n weithredol y rhan fwyaf yng Nghymru, yn eu presenoldeb digidol yn hollbwysig iddynt.

Er eu bod wedi sefydlu gwefan Swyddle ar barth .com, penderfynent gofrestru’r cyfeiriadau .wales a .cymru hefyd, gan ganiatau iddynt gael cynnwys Cymraeg ar y cyfeiriad .cymru a Saesneg ar y cyfeiriad .wales. “Yn y modd yna mae unigolion yn gallu canfod unrhyw wybodaeth maen nhw eisiau, yn yr iaith maen nhw eisiau” meddai Dafydd Henry, un o sefydlwyr Swyddle.

“Yn bendant, byddem yn annog pob cwmni yng Nghymru i symud i’r parth yma. Mae bod yn lleol yn rhywbeth pwysig iawn i’r gynulleidfa. Nid oes pwrpas trio cyfathrebu gyda phobl ym mhob un rhan o’r byd mewn un iaith, mae eisiau cyfathrebu efo pobl yn eu hiaith eu hunain ac mae .cymru a .wales yn caniatau i hynny ddigwydd.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Banc Datblygu Cymru
Read
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Read
Gymdeithas Pêl-droed Cymru
Read

© Nominet UK 2024