Llywodraeth Cymru yn newid ei chyfeiriad rhyngrwyd i .cymru a .wales

Yng nghyfarfod ICANN yn Llundain heddiw, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dechrau symud cyfeiriad rhyngrwyd swyddogol o .gov.uk i .cymru a .wales o’r flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymuno sawl sefydliad blaenorol arall sy’n newid, gyda rhai yn newid cyn gynted a fydd y parthau’n fyw ym mis Medi eleni. Fe wnaeth hoff gôr Prydain ac enillwyr Gwobr Brit Clasurol, Only Men Aloud, perfformio yn y gynhadledd a datgan eu cefnogaeth fel un o sefydlwyr y rhaglen; gan sicrhau mai nhw fyddai’r perfformwyr cyntaf i fabwysiadu enw parth .cymru / .wales.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Dyma gyfle cyffrous i Gymru cael presenoldeb amlwg ar y we ac rwy’n falch ein bod wedi gallu ymuno a sefydliadau blaenorol eraill sy’n arwain y ffordd gyda’r newid i .wales a .cymru.

“Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni osod Cymru ar wahân ar-lein a hyrwyddo buddion unigryw ein gwlad, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Wrth sicrhau parthau dwyieithog rydym hefyd yn gallu hyrwyddo ac annog defnydd o’r iaith Gymraeg ar-lein.

“Rwy’n gobeithio bydd busnesau a sefydliadau Cymraeg yn ymuno a ni yn y newid, gan helpu i sefydlu proffil byd-eang sy’n adlewyrchu hunaniaeth unigryw Cymru, gan ganiatáu i ni greu cymuned Gymreig adnabyddadwy ar-lein.”

Dywedodd Rennie Fritchie, Cadeirydd Nominet: “Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol o .cymru a .wales o’r cychwyn cyntaf ac rydym wrth ein bodd eu bod wedi ymroi i newid. Mae’r symudiad yn ddathliad addas ar gyfer dechreuad gofod ar-lein sydd yn wir Gymreig.”

Mae ein parthau newydd, .cymru a .wales yn dod ym mis Medi eleni ac os oes gennych nod masnach, dylech weithredu nawr er mwyn cael y cyfle gorau bosibl i sicrhau’r enw parth cyfatebol, trwy ei gyflwyno i’r “Trademark Clearing House” cyn diwedd Mehefin. Ceir holl wybodaeth am y broses nod masnach yma http://trademark-clearinghouse.com. Ond, peidiwch â phoeni os nad oes gennych nod masnach – os ydych yn fusnes sy’n gweithredu yng Nghymru, fe fydd cyfle pellach i sicrhau enwau parth sy’n cyfateb i’ch enw busnes neu frand. Er mwyn cofrestru eich diddordeb, cliciwch yma http://eincartrefarlein.cymru/sign-up-for-updates

Related blog posts

Sut i roi eich busnes newydd ar-lein
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read

© Nominet UK 2024