Yr Urdd

.cymru yn rhan annatod o’r Urdd

I fudiad fel yr Urdd, mae defnyddio enw parth .cymru yn gwneud synnwyr perffaith: Urdd Gobaith Cymru – mae o yn yr enw. Fel mudiad gyda dros 50,000 o aelodau ledled Cymru, mae sicrhau bod ganddynt wefan sy’n hawdd i’w ddarganfod yn allweddol er mwyn sicrhau bod holl aelodau a defnyddwyr yr Urdd yn gallu darganfod yr holl wybodaeth maent angen.

Sefydlwyd yr Urdd yn 1922 gyda’r amcan i ddiogelu’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ac mae parth .cymru newydd yr Urdd wedi helpu iddynt bwysleisio eu Cymreictod ymhellach fel rhan annatod o’u presenoldeb ar-lein.

Dywedodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd, “Mae .cymru yn rhan annatod o’r mudiad. Rydym wedi cael bron i chwarter miliwn o ymweliadau unigol, gwahanol i’r wefan a bron i 4 miliwn o dudalennau wedi eu darllen ar y wefan ers i ni gymryd y parth yma.

“Roedd symud i’r parth newydd yn hawdd iawn; dim trafferth o gwbl. Does dim rheswm pam na ddylai pobl ei wneud o!”

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

National Botanic Garden of Wales
Read
Theatr Genedlaethol
Read
WRU
Read

© Nominet UK 2024