Dewch gyda ni i Gymreigio’r we

Ar 10fed Rhagfyr byddwn yn darlledu ein Thunderclap. Bydd y dyddiad yma hefyd yn nodi mai pythefnos yn unig sydd i fynd cyn diwedd y Cyfnod Blaenoriaethu Busnesau Cymreig yn ein rhaglen lansio. Os ydych chi’n fusnes Cymreig neu’n gallu profi eich bod yn defnyddio enw eich busnes yng Nghymru, yna gallwch wneud cais am enw parth .cymru a .wales nawr.

Dyma gyfle gwych i chi arddangos eich cwmni yng Nghymru, dangos eich bod yn falch o fod yn rhan o’n cartref ar-lein ni a’n helpu ni i Gymreigio’r we. Dyma lond llaw o ffyrdd gall .cymru a .wales fod o fudd i’ch busnes:

– Dyma’r ffordd berffaith i chi dynnu sylw at eich lleoliad daearyddol – mae www.caerdydd.cymru yn datgan lleoliad ein prif ddinas yn glir.
– Mae’n hawdd eu cofio; www.llwyaucaru.cymru a www.croeso.cymru – syml!
– Mae’r marchnadoedd .com a .co.uk yn orlawn felly dyma eich cyfle i ddod i’r brig ac amlygu eich hun wrth gael eich gafael ar yr enwau gwych hynny oedd eisoes wedi eu defnyddio – dyma’r cyfle i chi cael yr enwau parth yng Nghymru!
– Maen nhw’n chwifio’r faner Gymreig – dyma ddangos i’r byd eich bod yn gweithio ac yn gwerthu yng Nghymru, ac yn falch iawn o hynny.
– Os ydych chi’n siarad Cymraeg, dyma’r ffordd orau bosibl i  ddatgan i bawb eich bod eisiau gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg – gan ddefnyddio parth .cymru neu .wales.
– Mae’r parthau newydd yn diogelu eich “brand” yng Nghymru – cofrestrwch eich “brand” neu enw eich cwmni nawr er mwyn atal eraill rhag gwneud hynny.
– Cofiwch fod modd eu defnyddio fel cyfeiriad e-bost hefyd: [email protected]

Mae’r parthau .cymru a .wales eisoes ar gael i fusnesau ac ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol o 1af Mawrth 2015 ymlaen. Felly rydym angen eich cefnogaeth CHI er mwyn sicrhau bod cymaint â phosib yn gwybod am y cyfle gwych hwn.

Ymunwch â ni wrth i ni rannu’r neges yma ar gyfryngau cymdeithasol ar 10fed Rhagfyr; ychwanegwch eich llais i’r alwad a dewch gyda ni i Gymreigio’r we!

Related blog posts

Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read
Y We Gymreig ar ei newydd wedd
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read

© Nominet UK 2024