Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith

P’un a ydych chi’n dechrau gwefan neu gyfeiriad e-bost ar gyfer busnes newydd neu’n dechrau prosiect personol, mae eich enw parth yn rhan fawr o’ch brand, a byddwch chi’n adeiladu eich hunaniaeth ar-lein yn seiliedig arno. Gorau po gyntaf y byddwch chi’n cofrestru eich enw parth fel bod mwy o siawns gennych o sicrhau eich dewis cyntaf o enw.

Mae’r erthygl yma’n cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod am sut i ddewis enw parth .cymru neu .wales a fydd yn gweddu orau i’ch gwefan.

Yn yr erthygl yma, byddwn yn trafod y canlynol:

  • Cyngor 1 – Sicrhau bod yr enw parth yn adlewyrchu’r hyn rydych chi’n ei wneud
  • Cyngor 2 – Enw cofiadwy
  • Cyngor 3 – Bathu geiriau
  • Cyngor 4 – Barod am y dyfodol?
  • Cyngor 5 – Defnyddio estyniad addas ar gyfer yr enw parth
  • Cyngor 6 – Gofyn am farn pobl eraill ar eich rhestr fer
  • Cyngor 7 – Gwneud ychydig o waith ymchwil
  • Cyngor 8 – Prynu’r amrywiadau

 

 

Cyngor 1 – Sicrhau bod yr enw parth .cymru neu .wales yn adlewyrchu’r hyn rydych chi’n ei wneud

Pwrpas eich gwefan neu gyfeiriad e-bost yw gwneud argraff gyntaf wych ar eich cwsmeriaid, ac mae hynny’n dechrau gyda’ch enw parth. Mae angen i’ch enw parth fod yn syml ac yn syth i’r pwynt, ac mae angen iddo fod yn unigryw i chi.

Er enghraifft, os mai eich CV neu bortffolio personol yw eich gwefan, yna byddai defnyddio eich enw eich hunan fel enw parth yn briodol gan fod y wefan yn ymwneud â chi. Byddai defnyddio enw parth .cymru neu .wales hefyd yn helpu i hyrwyddo’ch lleoliad a’ch hunaniaeth. Os ydych chi’n dechrau blog, gallai eich enw parth fod yn seiliedig ar thema eich blog – CerddedMynyddoedd.cymru er enghraifft.

Os ydych chi’n dewis enw parth ar gyfer eich busnes, mae’n hanfodol gwneud yn siŵr ei fod yn cyfateb i’ch enw busnes. Y rheswm am hyn yw bydd pobl yn aml yn dyfalu’r enw parth yn seiliedig ar enw eich busnes.

Nid yn unig hynny, ond gallai defnyddio enw parth sy’n wahanol i’ch enw busnes fod yn ddryslyd; mewn rhestr o ganlyniadau chwilio a negeseuon e-bost, os na fydd eich enw parth yn cyfateb i’ch enw busnes efallai na fydd yn amlwg pa fusnes yw eich busnes chi.

Enghraifft amlwg o fusnes sydd ag enw parth gwahanol i’w enw busnes yw B&Q, sy’n defnyddio’r enw parth DIY.com i adlewyrchu ei safle yn y farchnad fel y lle gorau i brynu cyflenwadau gwaith llaw. Fodd bynnag, maen nhw hefyd wedi prynu bandq.com a bandq.co.uk, ac mae’r ddau enw’n ailgyfeirio i DIY.com, felly os bydd unrhyw un yn ceisio dyfalu’r enw parth, byddan nhw’n dal i gyrraedd y wefan iawn.

Cyngor 2 – Enw cofiadwy

Pan fyddwch chi’n dewis eich enw parth newydd, mae’n werth cofio nad drwy beiriannau chwilio fel Google yn unig mae pobl yn dod o hyd i’ch gwefan.

Efallai y byddwch chi’n sôn am eich gwefan wrth rywun fel bod modd iddyn nhw edrych arni’n ddiweddarach, er enghraifft, ac efallai y bydd yr enw’n cael ei argraffu ar gardiau busnes a deunyddiau marchnata eraill. Gyda’r naill ffordd neu’r llall, bydd yn rhaid iddyn nhw deipio cyfeiriad y wefan mewn porwr gwe, ac mae’n bosib y byddan nhw am sôn wrth ffrindiau am eich gwefan.

Mae hynny’n golygu bod angen i’ch enw parth fod yn hawdd i’w gofio, yn hawdd i’w ddweud ac yn hawdd i’w deipio. Hynny yw, cadwch e’n fyr ac yn syml.

Er mwyn cadw eich enw parth yn syml, mae’n well osgoi:

  • Rhifau – gall rhifau fod yn ddryslyd, oherwydd ar lafar fydd hi ddim yn glir a ddylai’r rhif gael ei ysgrifennu allan neu ei gynrychioli ar ffurf rhifiadol
  • Geiriau hir, neu eiriau sy’n anodd eu sillafu
  • Mwy na dau neu dri gair
  • Cysylltnodau

Yr eithriad i’r rheol o gynnwys cysylltnodau yw, os ydych chi wir am gael enw parth nad yw ar gael, mae’n bosib bod fersiwn ohono gyda chysylltnod ar gael.

Er enghraifft, efallai nad yw sioplosin.cymru ar gael, ond bod siop-losin.cymru ar gael. Fodd bynnag, mae “siop cysylltnod losin dot cymru” yn anoddach i’w ddweud na’r fersiwn heb gysylltnod, felly ceisiwch eu hosgoi os oes modd.

Rhestr wirio gyflym – pa mor gofiadwy yw eich enw

  • Hawdd i’w ddweud? – ydych chi’n baglu dros y geiriau?
  • Hawdd i’w ddarllen? – a yw’ch enw parth yn hawdd i’w ynganu? Os yw’n gyfuniad o fwy nag un gair, a yw’n glir lle mae un gair yn gorffen a’r llall yn dechrau?
  • Hawdd i’w sillafu? – a fyddai’n rhaid i chi sillafu’r llythrennau un wrth un petai rhywun eisiau ysgrifennu eich enw parth ar bapur, neu a yw’n ddigon amlwg? A oes unrhyw eiriau sy’n cael eu camsillafu neu eu camdeipio ynddo, neu eiriau eraill sy’n anodd i’w sillafu?
  • A yw’n gwneud synnwyr? – a fyddai’n rhaid i chi esbonio’r enw, neu a yw’n amlwg pam eich bod wedi dewis yr enw?

Cyngor 3 – Bathu geiriau

Gan fod enwau parth byrrach yn brin, mae rhai cwmnïau’n dewis bathu geiriau newydd fel enw busnes, ac mae hynny’n cynnig enw parth unigryw a chofiadwy iddyn nhw hefyd.

Mewn gwirionedd, mae argaeledd enwau parth wedi dod yn ystyriaeth allweddol wrth enwi busnes newydd. Mae rhai o fusnesau Cymru yn manteisio ar ddefnyddio’r Gymraeg pan ddaw hi at ddewis enw parth.

Er enghraifft, mae cwmni crwst.cymru yn defnyddio’r gair crwst fel ei enw parth. Mae hyn yn dangos yn glir i’r cwsmer beth maen nhw’n ei werthu a’r enw uniaith Gymraeg yn dangos eu balchder yn yr iaith. Mae’r gair ‘crwst’ yn llawer byrrach nag enw fel “Caffi Aberteifi”, ac mae’n hawdd ei gynrychioli mewn logo.

Ffynhonnell y ddelwedd: https://crwst.cymru/ © Hawlfraint 2021 CRWST Awst 2021

Enghraifft arall o fusnes Cymreig yw cwtchbox.wales. Maen nhw’n defnyddio’r gair ‘Cwtch’ yn yr enw parth gair nad yw’n cyfieithu i’r Saesneg ac felly mae ganddyn nhw enw parth unigryw iawn. Mae’r gair ‘cwtch’ yn cyfleu ymdeimlad o gartref, o gysur a chofleidiad teimladwy. Mae hyn yn helpu i greu hunaniaeth unigryw, yn ogystal â bod â chysylltiad arbennig â Chymru a threftadaeth Gymreig.

Yr unig broblem bosib gyda hynny, fel soniwyd uchod, yw ei bod yn bwysig bod yr enw’n hawdd i’w sillafu a’i ynganu. Mae Crwst a Cwtch yn fyr ac yn fachog, ond os ydych chi’n targedu cynulleidfa Seisnig, gall fod yn anoddach iddyn nhw sillafu ac ynganu geiriau nad ydyn nhw’n eu deall.

Felly, os ydych chi’n ystyried bathu geiriau fel rhan o’ch enw parth, gwnewch yn siŵr eich bod yn meddwl am y gynulleidfa rydych chi am ei thargedu a dilynwch y rhestr wirio gyflym am ba mor gofiadwy yw eich enw.

Cyngor 4 – Barod am y dyfodol?

Er ei bod yn bosib symud eich gwefan i enw parth arall yn y dyfodol (darllenwch ein herthygl ar Gymorth Enw Parth i gael rhagor o wybodaeth), mae’n well dewis enw a fydd yn addas am sbel.

Mae symud i enw parth gwahanol yn gallu achosi problemau SEO, yn ogystal â niweidio’r brand rydych chi wedi gweithio mor galed i’w adeiladu.

Yn fwyaf amlwg, dylech osgoi enwau parth sy’n cynnwys dyddiadau. Os ydych chi’n cynnal ras redeg am hwyl, er enghraifft, dewiswch enw parth RasHwylCaernarfon.cymru yn hytrach na RasHwylCaernarfon2021.cymru. Fel hyn, gallwch ailddefnyddio’r wefan bob blwyddyn yn hytrach na gorfod dechrau o’r dechrau bob tro, a byddwch yn elwa o’r cryfder mae’r enw parth wedi’i fagu wrth i bobl rannu’r wefan a chysylltu â hi dros y blynyddoedd.

Os mai gwefan ar gyfer eich busnes yw hi, bydd angen i chi feddwl am drywydd eich busnes yn y dyfodol a sicrhau nad yw eich enw parth yn cyfyngu ar beth allwch chi ei gynnig.

Er enghraifft, os ydych chi’n cychwyn allan fel busnes bach sy’n trin ewinedd ac yn dewis enw parth sy’n adlewyrchu hynny, beth fydd yn digwydd os byddwch chi’n dewis ehangu’r busnes i gynnwys gwasanaethau trin gwallt hefyd?

Cyngor 5 – Defnyddio estyniad addas ar gyfer yr enw parth

Nid yr enw parth ei hunan yw’r unig beth sydd angen i chi ei ystyried wrth ddewis cyfeiriad; bydd angen i chi benderfynu pa estyniad i’w ddefnyddio hefyd.

Yr enw ar y darn sy’n ymddangos ar ôl yr atalnod llawn yn eich enw parth yw’r parth lefel uchaf (TLD). Efallai y bydd yr enw parth rydych chi’n ei ddewis yn effeithio ar sut mae pobl yn gweld eich gwefan; er enghraifft, i bobl y tu allan i Gymru, byddai enw parth .wales yn ymddangos yn fwy hygyrch iddyn nhw ac yn dangos yn glir lle rydych chi wedi’ch lleoli. Mae enw parth .cymru yn fwy hygyrch i gynulleidfa Gymraeg ac yn ffordd dda o ddenu cwsmeriaid yng Nghymru.

Mae rhai busnesau yn tueddu i gofrestru enw parth .cymru a .wales ac yn teilwra cynnwys i gynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg drwy ddefnyddio’r enw parth .wales i gyfeirio cynulleidfaoedd at fersiwn Saesneg o gynnwys y wefan. Fodd bynnag, mae’r ddau enw parth yn diffinio’ch lleoliad yn glir, yn ogystal â’ch angerdd a’ch balchder dros Gymru.

Cyngor 6 – Gofyn am farn pobl eraill ar eich rhestr fer

Pan fyddwch chi wedi dewis rhestr fer o’ch hoff enwau parth sydd ar gael, dylech gynnal arolwg barn ymhlith eich ffrindiau (neu eich cwsmeriaid hyd yn oed) i weld pa rai maen nhw’n eu hoffi orau.

Efallai y byddan nhw’n sylwi ar rywbeth nad ydych chi wedi’i weld, er enghraifft bod y llythrennau wedi’u grwpio mewn ffordd anffodus i ffurfio gair nad oeddech chi wedi’i fwriadu.

Mae hefyd yn werth gofyn i ychydig o bobl roi cynnig ar sillafu eich enw parth a’i ddarllen allan yn uchel gan y bydd hyn yn ffordd o weld a yw’ch enw parth yn ddigon hawdd i bobl eraill ei deipio a’i ynganu.

Cyngor 7 – Gwneud ychydig o waith ymchwil

Ar ôl dewis eich hoff enw parth, mae’n werth treulio ychydig o amser yn ymchwilio i’r enw er mwyn gwneud yn siŵr nad yw wedi’i ddiogelu’n gyfreithiol.

Os yw’n enw tebyg iawn i enw cystadleuydd – yn enwedig cystadleuydd mawr – mae’n bosib eu bod wedi diogelu’r enw parth a’i amrywiadau gyda nod masnach neu hawlfraint. Er enghraifft, efallai eich bod chi’n gynhyrchydd seidr lleol bach, ond os yw eich enw’n cynnwys y gair ‘apple’, mae’n sicr yn werth i chi wneud yn siŵr na fyddwch yn cael problemau gyda’r cwmni enwog, Apple.

Gallwch chwilio am nodau masnach yng ngwledydd Prydain ar wefan y llywodraeth a nodau masnach yn yr Unol Daleithiau yma.

Mae hefyd yn bwysig gwirio pa wefannau sydd ar barthau tebyg. Os oes rhywun yn ceisio dod o hyd i’ch gwefan ac yn glanio ar dudalen sydd ag enw parth tebyg – cystadleuydd i chi o bosib, neu gynnwys annymunol – gallech naill ai golli cwsmeriaid i gystadleuydd neu orfod delio â phroblem o ran eich enw da.

Cyngor 8 – Prynu’r amrywiadau

Yn ogystal â phrynu’ch enw parth o ddewis, mae’n syniad da ceisio prynu amrywiadau arno.

Os ydych chi wedi prynu enw parth .cymru, er enghraifft, gallai fod yn arfer da i chi brynu’r fersiwn .wales yn ogystal. Mae hyn yn diogelu eich enw parth ac yn atal pobl eraill rhag manteisio ar eich llwyddiant. Er enghraifft, mae’n golygu na fydd modd i neb arall sefydlu gwefan gystadleuol ar enw parth tebyg, gan ddwyn cwsmeriaid oedd yn chwilio am eich busnes chi mewn gwirionedd.

Gallech hefyd brynu amrywiadau sydd wedi’u camsillafu neu gamdeipio o’ch enw parth. Er enghraifft, os mai gwybodaeth.cymru oedd eich enw parth, efallai y byddech chi am brynu gwydobaeth.cymru hefyd.

Er mwyn gwneud y gorau o’r enwau parth rydych chi wedi’u prynu, gwnewch yn siŵr bod eich holl amrywiadau yn ailgyfeirio’n barhaol i’ch prif enw parth fel bod unrhyw un sy’n ceisio ymweld â nhw yn cyrraedd eich gwefan gywir chi. Mae modd gwneud hyn drwy eich cofrestrydd parth.

 

Noder: Mae’r enghreifftiau a ddangosir yma at ddibenion eglurhaol yn unig. Nid yw Nominet yn cymeradwyo’r cwmnïau na’r cynnyrch a gaiff eu harddangos.

 

Postiwyd yn wreiddiol ar UK Domain.

Defnyddiwch y blwch chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol ar gael i’w brynu

Related blog posts

Sut i roi eich busnes newydd ar-lein
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read
Welsh flag
Busnesau Cymru yn gweld manteision o ddefnyddio .cymru a .wales
Read

© Nominet UK 2024