Hygyrchedd

Hygyrchedd a chymorth wrth ddefnyddio eincartrefarlein.cymru

Rydyn ni’n ceisio gwneud y wefan yma yn hygyrch ac yn hawdd ei defnyddio i bawb.

Os ydych chi’n cael problemau wrth ddefnyddio’r wefan, rhowch wybod i ni. Gallwch e-bostio manylion y broblem (gan gynnwys pa borwr a system weithredu roeddech yn eu defnyddio) i [email protected]

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd defnyddio bysellfwrdd neu lygoden
Sut i’w gwneud hi’n haws defnyddio eich llygoden
Dewisiadau amgen yn lle bysellfwrdd a llygoden

Os ydych chi’n cael trafferthion gyda’ch golwg
Cynyddu maint y testun yn eich porwr gwe
Newid lliw testun a chefndir i’w gwneud yn haws eu darllen

Os ydych chi’n ddall
Dysgwch ragor am ddarllenwyr sgrin a phorwyr sy’n siarad

Cynnwys a dolenni clir

Fel rhan o broses o wella, rydyn ni wedi ailysgrifennu a lleihau llawer o gynnwys y wefan, gan symleiddio pethau lle bo modd. Rydyn ni’n ceisio gwneud yn siŵr bod dolenni’n cael eu disgrifio’n rhesymegol (yn hytrach na ‘cliciwch yma’) fel eu bod yn gwneud synnwyr y tu allan i’w cyd-destun. Lle bo’n briodol, mae dolenni wedi cael ‘teitl’ er mwyn helpu i egluro pwrpas y ddolen dan sylw yn llawn.

Ar gyfer darllenwyr sgrin, rydyn ni wedi darparu dolenni sy’n galluogi neidio nodwedd llywio’r brif dudalen. Sylwch, ni fydd pobl sy’n defnyddio porwr safonol yn gallu gweld ‘dolenni neidio’, ac eithrio o dan rai amgylchiadau (analluogi dalennau arddull neu drwy ddefnyddio’r bysellfwrdd i lywio).

Nodyn ar safonau Hygyrchedd

Ein nod yw cydymffurfio â chanllawiau cyfredol Consortiwm y We Fyd Eang (W3C) ar gyfer hygyrchedd; mae hon yn broses barhaus o ail-werthuso ac rydyn ni’n gweithio’n barhaus i wneud ein gwefannau yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau, fel y mae technoleg a safonau yn caniatáu.

Mae hyn yn cynnwys Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe y W3C (WCAG 2.0), sy’n cynnwys cyfres o lefelau cydymffurfio y gellir eu defnyddio i adolygu cynnwys gwefan ar gyfer hygyrchedd. Rydyn ni wedi adolygu ein gwefan yn erbyn y canllawiau yma ac rydyn ni’n cyflawni statws A neu AA yn y rhan fwyaf o achosion.

Ffeiliau Dogfen Gludadwy (PDFs)

Mae rhywfaint o’n cynnwys yn cael ei ddarparu ar ffurf ffeiliau PDF. Er mwyn gweld y dogfennau yma yn eich porwr bydd angen meddalwedd Adobe Acrobat Reader arnoch; gellir gosod y meddalwedd am ddim os nad yw eisoes ar gael ar eich system drwy fynd i wefan Adobe. Dysgwch ragor am ffeiliau PDF a hygyrchedd.

Colophon

Mae dyluniad y wefan yma’n defnyddio’r safonau gwe diweddaraf fel HTML5 a CSS3, ac yn cael ei wella gan ddefnyddio llyfrgelloedd jQuery JavaScript. Mae’r wefan wedi’i dylunio i weithio gydag unrhyw borwr gwe ar unrhyw fath o gyfrifiadur neu ddyfais.

© Nominet UK 2024