Amdanom ni

Bellach mae’r we’n Gymreig gyda’r parthau .cymru a .wales

.cymru a .wales yw’r parthau lefel uchaf i Gymru ac fe’u lansiwyd ar 1 Mawrth 2015 gan Nominet, sef y sefydliad sy’n gyfrifol am sicrhau bod y rhyngrwyd .UK yn rhedeg yn llyfn.
I’r rhai sydd am bwysleisio eu cysylltiadau neu eu treftadaeth Gymreig, mae diwedd yr enwau parth yn arwydd gweladwy i unrhyw un sy’n mynd i’w safle nhw. Dyma newyddion da i Gymru, busnesau Cymreig ac unrhyw un sydd am dargedu’r farchnad Gymreig.
CarwynJones

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gymru i gael presenoldeb penodol ar y we. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni hyrwyddo manteision unigryw ein gwlad ni, o safbwynt economaidd a diwylliannol

Cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones ​
IeuanEvans

Amcan y parthau hyn yw mynd â’n hangerdd, balchder a’n tarddiad Cymreig i’r byd ar-lein ac o ganlyniad, mae gan bawb gyfle oddi mewn i Gymru ac o gwmpas i wneud yr union beth hynny.

Ieuan Evans MBE
IanGwynHughes

Gall pobl weld nad ydyn ni’n rhyw ran fach o Loegr, mae gennym ni ein hunaniaeth ein hunain ac rwy’n credu bod hynny’n estyn apêl Cymru a Chymreictod a’r ffaith ein bod ni’n wlad fodern, fywiog. Yn gymdeithas, byddwn i’n argymell .cymru a .wales i unrhyw un.

Ian Gwyn Hughes, Cymdeithas Pêl-droed Cymru
SionedHughes

.Erbyn hyn mae .cymru yn rhan annatod o bwy ydyn ni. Rydyn ni wedi cael bron chwarter miliwn o ymweliadau â’r wefan ac mae bron 4 miliwn o dudalennau ar ein gwefan wedi eu darllen ers i ni fabwysiadu’r parth .cymru.

Meddai Prif Weithredwr yr Urdd, Sioned Hughes ​
Beverley-Downes_300-x-300

Rydyn ni’n falch o fod yn sefydliad o Gymru sy’n cefnogi pobl Cymru. Mae cael enw .Cymru yn ein helpu ni i hyrwyddo’n presenoldeb ledled Cymru a’r tu hwnt.

Mae ein gwefan yn elfen bwysig o’n hunaniaeth a’n brand digidol. Mae’r enw parth yn chwarae rhan hanfodol yn y ffordd mae ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid yn cydnabod ein busnes fel Banc Datblygu Cymru, ar gyfer Cymru.

Meddai Beverley Downes, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu Banc Datblygu Cymru
LiamBurgess

Byddwn i’n argymell yn hollol y dylai unrhyw un sy’n gwneud cynnyrch yng Nghymru yn mabwysiadu enw parth .cymru a .wales … Gan ei bod hi’n hollbwysig ein bod ni’n dangos o ble rydyn ni’n dod a nod popeth a wnawn ni yw ei gwneud hi’n glir bod gwahaniaeth rhyngom ni a’r brandiau a’r gwasanaethau eraill sydd ar gael. I ni mae .cymru yn ffordd anhygoel o adrodd hanner y stori heb orfod dweud dim.

Liam Burgess, Nom Nom Chocolates ​

© Nominet UK 2024