Y We Gymreig ar ei newydd wedd

Wrth i ni ddathlu penblwydd cyntaf .cymru a .wales, mae hi eisoes yn amlwg bod tirwedd y we Gymreig yn newid. Fel y gwelir yn ein ffeithlun, mae busnesau bach a mawr yn trawsnewid eu cynnig ar-lein ac yn apelio i gwsmeriaid yn lleol ac yn fyd-eang. Gyda rhai o gyrff cyhoeddus mwyaf adnabyddus a dylanwadol Cymru, gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn newid i enwau parth .cymru a .wales, mae’n amlwg bod busnesau yng Nghymru yn cydnabod gwerth parth cenedlaethol Cymreig. 

Tra bod busnesau mawr yn gwneud y mwyaf o’r parthau newydd, mae busnesau canolog a bach hefyd yn defnyddio’r parth cenedlaethol newydd i’w buddion eu hunain. Nid yn ninasoedd mwyaf Cymru mae hyn yn digwydd yn unig. Tra bod ein hymchwil yn dangos mai llefydd mwyaf gwybodus gyda thechnoleg yw Caerdydd ac Abertawe, gyda chofrestriadau busnesau newydd hefyd wedi eu canolbwyntio yn y brif ddinas, mae rhannau gwledig o Gymru hefyd yn tyfu eu presenoldeb ar-lein.

Er enghraifft, mae datblygiad ar-lein mewn rhannau o Ganol Cymru yn fwy na chofrestriadau busnesau newydd yn yr ardal. Mae hyn yn awgrymu bod busnesau lleol fel siopau neu gyrchfannau i dwristiaid sydd ddim ar-lein yn draddodiadol wedi cydnabod manteision ddaw wrth ddefnyddio parthau .cymru a .wales, gan caniatau iddynt gystadlu’n llwyddiannus yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’r cynnydd mewn presenoldeb ar-lein yn cael ei adlewyrchi mewn ffigyrau cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n awgrymu bod deiliadaeth ystafelloedd mewn gwestai wedi cynyddu 6% rhwng 2014 a 2015.

Gydag ymchwil yn awgrymu bod yr enwau mwyaf poblogaidd i’w cofrestru ar gyfer parthau .cymru a .wales yn cynnwys “eco”, “new”, “house”, “hire” a “holiday”, efallai nad yw’n annisgwyl bod ffigyrau twristiaeth ar gyfer gwestai yn cynyddu’n unol a hyn. Dyma ond un o’r ystadegau diddorol gwnaethom ganfod wedi blwyddyn o gofrestriadau .cymru a .wales – gallwch weld rhagor yn ein ffeithlun.

Fe wnaeth ein hymchwil hefyd dangos bod nifer cyfeiriadau we annibynnol a phersonol wedi cynyddu gydag un mewn trideg enw parth yn cynnwys un o’r deg cyfenw Cymreig uchaf. Mae hyn hefyd yn dangos cynnydd posib yn nifer busnesau annibynnol neu leol sy’n symud ar-lein.

Mae blwyddyn gyntaf cyffrous .cymru a .wales wedi cynnig sail ar-lein newydd ar gyfer parhau twf yr economi Cymreig newydd. Gyda dim ond blwyddyn ers lansio parthau .cymru a .wales, mae’n amlwg bod busnesau Cymreig, ar-lein ac all-lein, gyda dyfodol llachar gyda rhagor o gyfleoedd i gadw eu gwreiddiau lleol wrth gystadlu’n rhyngwladol a herio’r byd.

Gwelwch ein ffeithlun diweddaraf am ragor o ystadegau diddorol am gofrestriadau .cymru a .wales.