Erbyn hyn, mae pob etholiad yn etholiad ar-lein

Erbyn hyn, mae pob etholiad yn etholiad ar-lein ac mae pob un yn teimlo ychydig yn wahanol.

Ond y tro hyn yng Nghymru, mae gennym elfen Gymreig wahanol sy’n gwneud etholiad y Cynulliad yn fwy Cymreig nag erioed. Oherwydd yn 2016, mae’r rhyngrwyd gwleidyddol gwirioneddol yn .cymru a .wales am y tro cyntaf.

Edrychwch ar sut mae’r prif bleidiau gwleidyddol yn hyrwyddo eu hunain ar-lein. Mae nhw’n defnyddio http://www.welshlabour.wales/http://www.demrhyddcymru.cymru/, a http://ukip.cymru/.

Ac mae’r pleidiau’n mynd a hyn ymhellach gan ddefnyddio’r parthau i greu cysondeb, gyda maniffesto Llafur yn cael ei lansio ar http://www.gydangilydddros.cymru/, sy’n datgan slogan eu hymgyrch yn glir.

Enghraifft arall yw gwefan lluniwyd gan Plaid Cymru i gwtogi URLau https://voteplaid.cymru/ sy’n symleiddio cyfeiriadau we i greu fersiwn byrrach sy’n cynnwys yr hys-bys gwleidyddol hollbwysig.

Tra bod ymgeiswyr unigol yn creu gwefannau fel http://www.jaynebryant.wales/ neu cyfeiriadau ebost fel [email protected], sy’n dangos hyblygrwydd y parthau newydd.

Pwy bynnag yw’r blaid, mae’n debyg bod .cymru a .wales yn arwain y gad o ran llwyfannau gwleidyddol yn ystod yr etholiad hwn.

Related blog posts

.cymru .wales: 19,000 Enw Parth i Gymru
Read
Digwyddiad Hanesyddol i Gymru ar y Rhyngrwyd: .cymru a .wales ar gael i bawb
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read

© Nominet UK 2024